Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod. Paid synnu, gei di ddim dy siomi! Byddi’n anghofio cywilydd dy ieuenctid, ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw. Mae’r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e. Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di’n rhydd – ie, ‘Duw yr holl daear’. Mae’r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl – fel gwraig oedd wedi’i gadael ac yn anobeithio, gwraig ifanc oedd wedi’i hanfon i ffwrdd.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Gwrthodais di am ennyd fach, ond gyda thosturi mawr bydda i’n dod â ti’n ôl. Rôn i wedi gwylltio am foment, ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti. Ond gyda chariad sy’n para am byth bydda i’n garedig atat ti eto,” –meddai’r ARGLWYDD, sy’n dy ollwng di’n rhydd.
Darllen Eseia 54
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 54:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos