Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Eseia 61:1-3

Eseia 61:1-3 BNET

Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i, am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i’w wasanaethu. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi newyddion da i’r tlodion, i drin briwiau’r rhai sydd wedi torri eu calonnau, a chyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid, ac i ollwng carcharorion yn rhydd; i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma, a’r diwrnod pan fydd Duw yn dial; i gysuro’r rhai sy’n galaru – ac i roi i alarwyr Seion dwrban ar eu pennau yn lle lludw, ac olew llawenydd yn lle galar, mantell mawl yn lle ysbryd anobaith. Byddan nhw’n cael eu galw yn goed hardd, wedi’u plannu gan yr ARGLWYDD i arddangos ei ysblander.