Iago 1:2-4
Iago 1:2-4 BNET
Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen. Achos pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. Ac mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth!


