Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen. Achos pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. Ac mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth! Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw. Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai sy’n amau yn debyg i donnau’r môr yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt. Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd! Dŷn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw’n byw mewn ansicrwydd.
Darllen Iago 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Iago 1:2-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos