Barnwyr 15:6
Barnwyr 15:6 BNET
“Pwy wnaeth hyn?” meddai’r Philistiaid. A dyma rywun yn ateb, “Samson, am fod ei dad-yng-nghyfraith, sy’n byw yn Timna, wedi cymryd ei wraig a’i rhoi i’w was priodas.” Felly dyma’r Philistiaid yn mynd i Timna a dal gwraig Samson a’i thad a’u llosgi nhw i farwolaeth.

