Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 29:4-14

Jeremeia 29:4-14 BNET

Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi’u hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon: “Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta’r hyn sy’n tyfu ynddyn nhw. Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i’ch meibion a gadael i’ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i’ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau. Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas lle dw i wedi mynd â chi’n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.” Achos dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i’r proffwydi sydd gyda chi, a’r rhai hynny sy’n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o’u breuddwydion. Maen nhw’n hawlio eu bod nhw’n siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! Wnes i mo’u hanfon nhw,” meddai’r ARGLWYDD. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i’n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i’n gwneud y pethau da dw i wedi’u haddo, a dod â chi yn ôl yma i’ch gwlad eich hunain. Fi sy’n gwybod beth dw i wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i’n gwrando. Os byddwch chi’n chwilio amdana i o ddifri, â’ch holl galon, byddwch chi’n fy ffeindio i. Bydda i’n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai’r ARGLWYDD. “Bydda i’n rhoi’r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i’n eich casglu chi yn ôl o’r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i’n dod â chi adre i’ch gwlad eich hunain.”

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Jeremeia 29:4-14