Job 10
10
Job yn cwyno
1Mae’n gas gen i orfod byw!
Ydw, dw i’n mynd i gwyno,
a dweud mor chwerw dw i’n teimlo.
2Dweud wrth Dduw, ‘Paid condemnio fi heb achos!
Gad i mi wybod pam ti’n ymosod arna i.’
3Wyt ti’n mwynhau cam-drin pobl?
Taflu i ffwrdd waith dy ddwylo,
a gwenu ar gynlluniau pobl ddrwg?
4Wyt ti’n edrych ar bethau drwy lygaid dynol?
Wyt ti’n deall pethau fel mae pobl yn eu gweld nhw?
5Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol?
Ydy dy flynyddoedd di’n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni?
6Ai dyna pam ti’n chwilio am fy meiau i
a cheisio dod o hyd i’m pechod?
7Ti’n gwybod yn iawn nad ydw i’n euog,
ond all neb fy achub o dy ddwylo di.
8Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a’m creu,
ond yna dyma ti’n troi i’m dinistrio’n llwyr!
9Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai.
Wyt ti’n mynd i wneud llwch ohono i eto?
10Ti dywalltodd fi fel llaeth i’r groth,
a’m ceulo fel caws ym mol fy mam.
11Gwisgaist fi â chnawd a chroen,
a gweu fy esgyrn a’m gewynnau at ei gilydd.
12Ti roddodd fywyd i mi, a gofalu amdana i –
dy ofal di sydd wedi fy nghadw i’n fyw.
13Ond roeddet ti’n cuddio dy gynllun go iawn.
Dw i’n gwybod mai dyma oedd dy fwriad:
14Fy ngwylio i, i weld fyddwn i’n pechu,
ac wedyn gwrthod gadael i mi fynd.
15Os ydw i’n euog – mae ar ben arna i!
Ond hyd yn oed os ydw i’n ddieuog, alla i ddim codi fy mhen;
dw i’n llawn cywilydd ac wedi cael llond bol o ofid.
16Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew,
i ddangos dy hun yn rhyfeddol – a hynny ar fy nhraul i!
17Ti’n galw tystion newydd yn fy erbyn,
ac yn troi’n fwy a mwy dig gyda mi;
dod â byddin newydd yn fy erbyn o hyd.
18Felly pam wnest ti adael i mi ddod allan o’r groth?
Pam wnes i ddim marw bryd hynny, cyn i neb fy ngweld i? –
19Byddai’n braf petawn i erioed wedi bodoli,
neu wedi cael fy nghario o’r groth i’r bedd!
20Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia!
Gad lonydd i mi, i mi gael ychydig o gysur!
21Cyn i mi fynd – heb fyth ddod yn ôl –
i wlad y twyllwch dudew,
22i dir y gwyll a’r fagddu,
lle does ond cysgodion ac anhrefn,
a lle mae’r golau ei hun fel tywyllwch.”
Dewis Presennol:
Job 10: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023