Job 17
17
Anobaith Job
1Dw i wedi torri fy nghalon,
mae fy nyddiau’n diffodd;
dim ond y bedd sydd o’m blaen.
2Mae pawb o’m cwmpas yn gwawdio,
mae fy llygaid yn gorfod diodde’u pryfocio.
3Cynnig dy hun yn fechnïydd drosto i!
Pwy arall sy’n fodlon gwarantu ar fy rhan?
4Ti wedi dallu’r rhain; dŷn nhw ddim yn deall,
felly fyddan nhw ddim yn llwyddo.
5Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i’w ffrindiau
tra mae ei blant ei hun yn llwgu.
6Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i’r bobl;
maen nhw’n poeri yn fy wyneb.
7Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid,
a’m corff i gyd yn ddim ond cysgod.
8Mae pobl dda yn methu credu’r peth,
a’r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol.
9Mae’r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur,
a’r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth.
10Felly dewch yn eich blaen i ymosod arna i eto!
Does dim dyn doeth i’w gael yn eich plith chi!
11Mae fy mywyd ar ben,
a’m cynlluniau wedi’u chwalu –
pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud.
12Mae’r ffrindiau yma’n dweud fod nos yn ddydd!
‘Mae’n olau!’ medden nhw, a hithau’n hollol dywyll!
13Dw i’n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd,
a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch;
14Dw i’n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’
ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ –
15Felly, ble mae fy ngobaith i?
Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi?
16Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth?
Fyddwn ni’n mynd i lawr gyda’n gilydd i’r pridd?”
Dewis Presennol:
Job 17: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023