Job 18
18
Ymateb Bildad: pobl ddrwg mae Duw’n eu cosbi
1A dyma Bildad o Shwach yn ymateb:
2“Pryd wyt ti’n mynd i stopio siarad fel yma?
Meddylia am funud, i ni gael cyfle i drafod.
3Pam wyt ti’n ein trin ni fel anifeiliaid direswm,
ac yn ein hystyried ni’n dwp?
4Cei rwygo dy hun yn ddarnau yn dy wylltineb,
ond a fydd trefn pethau yn cael ei newid er dy fwyn di?
Fydd y creigiau yn cael eu symud o’u lle?
5Na, mae golau’r rhai drwg yn cael ei ddiffodd;
fydd ei fflam e ddim yn ailgynnau.
6Mae’r golau yn ei babell yn gwanhau,
a’r lamp uwch ei ben yn diffodd.
7Bydd ei gamau hyderus yn troi’n betrus,
a’i gynlluniau ei hun yn ei faglu.
8Mae’n cerdded yn syth i’r rhwyd,
ac yn camu ar y fagl.
9Mae ei droed yn cael ei dal mewn trap,
a’r fagl yn tynhau amdani.
10Mae rhaff wedi’i chuddio ar y ddaear i’w ddal;
mae magl ar ei lwybr.
11Mae’n cael ei ddychryn o bob cyfeiriad,
ac mae ofnau’n ei ddilyn i bobman.
12Mae trychineb yn ysu amdano,
a dinistr yn disgwyl iddo lithro.
13Mae ei groen yn cael ei fwyta gan afiechyd,
a’i gorff yn dioddef y farwolaeth fwya erchyll.
14Mae’n cael ei lusgo allan o’i babell ddiogel,
a’i alw i ymddangos o flaen brenin braw.
15Mae tân yn byw yn ei babell,
a brwmstan yn cael ei chwalu dros ei gartref.
16Mae ei wreiddiau yn crino oddi tano,
a’i ganghennau’n gwywo uwch ei ben.
17Mae pawb drwy’r wlad wedi anghofio amdano;
does dim sôn am ei enw yn unman.
18Mae’n cael ei wthio o’r golau i’r tywyllwch,
a’i yrru i ffwrdd o’r byd.
19Heb blant na pherthnasau i’w enw,
a neb ar ôl lle roedd yn byw.
20Bydd pobl y gorllewin yn synnu at ei dynged,
a phobl y dwyrain wedi dychryn yn lân.
21Ond dyna beth sy’n digwydd i’r rhai drwg;
felly mae hi ar bobl sydd ddim yn nabod Duw.”
Dewis Presennol:
Job 18: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023