Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 29

29
Job yn crynhoi ei achos
1Yna aeth Job yn ei flaen i ddweud:
2“O na fyddai pethau fel roedden nhw o’r blaen,
pan oedd Duw yn gofalu amdana i.
3Roedd golau ei lamp uwch fy mhen,
ac rôn i’n cerdded drwy’r tywyllwch yn ei olau e.
4Roedd popeth yn mynd yn iawn,
ac roedd Duw fel ffrind agos i’r teulu.
5Roedd yr Un sy’n rheoli popeth gyda mi bryd hynny,
a’m plant i gyd o’m cwmpas i.
6Rôn i’n byw yn fras – ar ben fy nigon,#29:6 Hebraeg, “Rôn i’n trochi fy nhraed mewn caws colfran.”.
roedd ffrydiau o olew yn llifo rhwng y meini.
7Rôn i’n cerdded drwy giât y ddinas,
ac yn eistedd ar y cyngor yn y sgwâr.
8Roedd dynion ifanc yn camu o’r ffordd i mi,
a’r dynion hŷn yn codi ar eu traed.
9Roedd yr arweinwyr yn dal eu tafodau,
ac yn rhoi eu llaw dros eu cegau.
10Roedd y swyddogion yn cadw’n dawel,
fel petai eu tafodau wedi glynu wrth dop y geg.
11Roedd pawb oedd yn gwrando arna i’n canmol,
a phawb oedd yn fy ngweld yn siarad yn dda,
12am fy mod i’n achub y tlawd oedd yn galw am help,
a’r plentyn amddifad oedd heb neb i’w helpu.
13Roedd pobl oedd bron wedi marw yn fy mendithio,
ac roeddwn i’n gwneud i’r weddw ganu’n llawen.
14Roedd cyfiawnder fel gwisg amdana i,
a thegwch fel mantell a thwrban.
15Rôn i’n llygaid i’r dall
ac yn draed i’r cloff.
16Rôn i’n dad i’r rhai mewn angen,
ac yn gwrando ar achos y rhai dieithr.
17Rôn i’n dryllio dannedd y dyn drwg,
ac yn gwneud iddo ollwng ei ysglyfaeth.
18Dyma roeddwn i’n ei dybio:
‘Bydda i’n aros gyda’m teulu nes i mi farw,
ac yn cael byw am flynyddoedd lawer.
19Bydda i fel coeden a’i gwreiddiau’n cyrraedd y dŵr,
a’r gwlith yn aros ar ei changhennau.
20Bydd fy nerth yn cael ei adnewyddu,
a’m bwa yn newydd yn fy llaw.’
21Roedd pobl yn gwrando’n astud arna i,
ac yn cadw’n dawel wrth i mi roi cyngor.
22Ar ôl i mi siarad doedd gan neb ddim mwy i’w ddweud –
roedd fy ngeiriau yn disgyn yn dyner ar eu clustiau.
23Roedd disgwyl i mi siarad fel disgwyl am law,
disgwyl yn frwd am y glaw yn y gwanwyn.
24Pan fyddwn i’n gwenu, bydden nhw wrth eu boddau;
doedden nhw ddim eisiau fy nigio i.
25Fi oedd yn dangos y ffordd, fi oedd yn ben;
rôn i fel brenin yng nghanol ei filwyr;
rôn i’n cysuro’r rhai sy’n galaru.

Dewis Presennol:

Job 29: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda