Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses: “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a chroesi afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i’r tir dw i’n ei roi i chi. Fel gwnes i addo i Moses, dw i’n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi’n cerdded arni. Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o’r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A’r holl ffordd o afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di. Bydd yn gryf a dewr. Ti’n mynd i arwain y bobl yma i goncro’r wlad wnes i addo ei rhoi i’w hynafiaid. Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna’n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae’r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di’n llwyddo beth bynnag wnei di. Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a’i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae’n ei ddweud. Dyna sut fyddi di’n llwyddo. Dw i’n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!”
Darllen Josua 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Josua 1:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos