Josua 5
5
1Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a’r Canaaneaid wedi digalonni’n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i’r gorllewin o’r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir.)
Cadw’r ddefod o enwaedu yn Gilgal
2Bryd hynny dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Gwna gyllyll o garreg fflint, a dywed wrth ddynion Israel am fynd drwy’r ddefod o gael eu henwaedu.”#5:2 fynd drwy’r ddefod o gael eu henwaedu Allen nhw ddim dathlu’r Pasg heb fod wedi’u henwaedu (gw. Exodus 12:43-49). 3A dyma Josua yn gwneud hynny ar Gibeath-ha-araloth (sef ‘Bryn y blaengrwyn’). 4Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch. 5Roedd y dynion hynny wedi’u henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith drwy’r anialwch ddim wedi bod drwy’r ddefod o gael eu henwaedu. 6Roedd pobl Israel wedi bod yn crwydro yn yr anialwch am bedwar deg mlynedd, nes bod yr holl ddynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaethon nhw allan o’r Aifft i gyd wedi marw – y dynion hynny oedd wedi bod yn anufudd i’r ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi tyngu llw na fyddai byth yn gadael iddyn nhw weld y wlad roedd wedi addo ei rhoi iddyn nhw#Numeri 14:28-35 – y wlad ffrwythlon lle roedd llaeth a mêl yn llifo. 7A bellach, roedd eu meibion wedi cymryd eu lle. A nhw wnaeth Josua eu henwaedu, am fod eu tadau ddim wedi cadw’r ddefod yn ystod y cyfnod yn yr anialwch.
8Ar ôl i’r dynion i gyd gael eu henwaedu, dyma nhw’n aros yn y gwersyll nes roedden nhw wedi gwella. 9Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Heddiw dw i wedi symud y cywilydd eich bod wedi bod yn gaethion yn yr Aifft.” (Dyna pam mai Gilgal#5:9 Gilgal Mae’r enw “Gilgal” yn swnio fel yr Hebraeg am “symud i ffwrdd”. ydy’r enw ar y lle hyd heddiw.)
10Roedd pobl Israel yn gwersylla yn Gilgal ar wastatir Jericho. Pan oedd hi’n nosi ar ddechrau’r pedwerydd ar ddeg o’r mis cyntaf dyma nhw’n dathlu’r Pasg. 11A’r diwrnod wedyn dyma nhw’n bwyta peth o gynnyrch y tir – bara heb furum ynddo, a grawn wedi’i rostio. 12Dyna’r diwrnod pan wnaeth y manna stopio dod. O’r diwrnod pan ddechreuon nhw fwyta cynnyrch y tir, gafodd pobl Israel ddim bwyta manna eto. O’r flwyddyn honno ymlaen roedden nhw’n bwyta cynnyrch gwlad Canaan.
Josua a’r dyn yn dal y cleddyf
13Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, gwelodd ddyn yn sefyll o’i flaen yn dal cleddyf yn ei law. Dyma Josua’n mynd ato ac yn gofyn iddo, “Wyt ti ar ein hochr ni, neu gyda’n gelynion ni?” 14A dyma fe’n ateb, “Pennaeth byddin yr ARGLWYDD ydw i. Dw i wedi cyrraedd.” Aeth Josua ar ei wyneb ar lawr o’i flaen, a dweud, “Dy was di ydw i. Beth mae fy meistr eisiau i mi ei wneud?” 15A dyma bennaeth byddin yr ARGLWYDD yn ei ateb, “Tyn dy sandalau; ti’n sefyll ar dir cysegredig!” Felly dyma Josua’n gwneud hynny.
Dewis Presennol:
Josua 5: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023