Josua 6:20-25
Josua 6:20-25 BNET
Pan glywodd y bobl y corn hwrdd yn seinio, dyma nhw’n gweiddi’n uchel. Syrthiodd wal y ddinas, a dyma’r milwyr yn mynd yn syth i mewn iddi ac yn ei choncro. Dyma nhw’n lladd pawb a phopeth byw – dynion a merched, hen ac ifanc, gwartheg, defaid ac asynnod. Ond roedd Josua wedi dweud wrth y ddau ddyn oedd wedi bod yn ysbïo’r wlad, “Ewch chi i dŷ y butain, a dod â hi a’i theulu allan yn fyw, fel roeddech chi wedi addo iddi.” Felly dyma’r ysbiwyr ifanc yn mynd i nôl Rahab, a’i thad a’i mam, ei brodyr, a phawb arall o’i theulu. Aethon nhw â hi a’i theulu i gyd i le saff tu allan i wersyll Israel. Roedden nhw wedi llosgi’r ddinas a phopeth oedd ynddi, heblaw am y pethau aur ac arian, pres a haearn gafodd eu rhoi yn stordy tŷ’r ARGLWYDD. Ond roedd Josua wedi gadael i Rahab y butain fyw, a theulu ei thad a phawb arall oedd yn perthyn iddi. Mae ei theulu hi’n dal i fyw yn Israel hyd heddiw, am ei bod hi wedi cuddio’r dynion roedd Josua wedi’u hanfon i ysbïo ar Jericho.

