Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 17

17
Pechod, maddeuant a ffydd
(Mathew 18:6-7,21-22; Marc 9:42)
1Dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Bydd bob amser bethau’n digwydd sy’n temtio pobl i bechu, ond gwae’r sawl sy’n gwneud y temtio! 2Byddai’n well i’r person hwnnw gael ei daflu i’r môr gyda maen melin wedi’i rwymo am ei wddf, na gorfod wynebu canlyniadau gwneud i un o’r rhai bach yma bechu. 3Felly gwyliwch eich hunain! Os ydy rhywun arall sy’n credu ynof fi yn pechu, rhaid i ti ei geryddu; ond pan mae’n edifar ac yn troi cefn ar ei bechod, rhaid i ti faddau iddo. 4Hyd yn oed petai’n pechu yn dy erbyn saith gwaith y dydd, ond yn dod yn ôl bob tro ac yn gofyn am faddeuant, rhaid i ti faddau.”
5Dyma’r apostolion yn gofyn i’r Arglwydd, “Sut allwn ni gael mwy o ffydd?”
6Atebodd Iesu, “Petai’ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y goeden forwydden yma am gael ei chodi o’r ddaear wrth ei gwreiddiau a’i thaflu i’r môr, a byddai’n gwneud hynny!
7“Pan mae eich gwas yn dod i’r tŷ ar ôl bod wrthi’n aredig y tir neu’n gofalu am y defaid drwy’r dydd, ydych chi’n dweud wrtho, ‘Tyrd i eistedd i lawr yma, a bwyta’? 8Na, dych chi’n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’ 9A dych chi ddim yn diolch iddo, am fod y gwas ddim ond yn gwneud beth mae gwas i fod i’w wneud. 10Felly chithau – ar ôl gwneud popeth dw i’n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni’n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’”
Deg dyn yn cael eu hiacháu o’r gwahanglwyf
11Aeth Iesu ymlaen ar ei ffordd i Jerwsalem, a daeth at y ffin rhwng Galilea a Samaria. 12Wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, dyma ddeg dyn oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf yn dod i’w gyfarfod. Dyma nhw’n sefyll draw 13ac yn gweiddi’n uchel arno o bell, “Feistr! Iesu! – wnei di’n helpu ni?”
14Pan welodd Iesu nhw, dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i ddangos eich hunain i’r offeiriaid.”#17:14 i’r offeiriaid: gw. nodyn ar 5:14.#gw. Lefiticus 14:1-32 Ac roedden nhw ar eu ffordd i wneud hynny pan wnaeth y gwahanglwyf oedd ar eu cyrff ddiflannu!
15Dyma un ohonyn nhw’n troi’n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi’n uchel, “Clod i Dduw!” 16Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am yr hyn roedd wedi’i wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn.)
17Meddai Iesu, “Rôn i’n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae’r naw arall? 18Ai dim ond y Samariad yma sy’n fodlon rhoi’r clod i Dduw?” 19Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”
Duw yn teyrnasu
(Mathew 24:23-28,37-41)
20Un diwrnod, dyma’r Phariseaid yn gofyn i Iesu, “Pryd mae teyrnasiad Duw yn mynd i ddechrau?” Atebodd Iesu, “Does yna ddim arwyddion gweledig yn dangos fod teyrnasiad Duw wedi cyrraedd! 21Fydd pobl ddim yn gallu dweud, ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ achos mae Duw yma’n teyrnasu yn eich plith chi.”
22Roedd yn siarad am hyn gyda’i ddisgyblion wedyn, ac meddai, “Mae’r amser yn dod pan fyddwch chi’n dyheu am gael rhyw gipolwg bach o’r dyddiau pan fydda i, Mab y Dyn gyda chi eto, ond byddwch yn methu. 23Bydd pobl yn honni fod Mab y Dyn wedi dod yn ôl; ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ byddan nhw’n ei ddweud. Ond peidiwch gwrando arnyn nhw a mynd allan i edrych amdano. 24Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo’r awyr o un pen i’r llall! 25Ond cyn i hynny ddigwydd mae’n rhaid i mi ddioddef yn ofnadwy a chael fy ngwrthod gan bobl y genhedlaeth bresennol.
26“Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa#gw. Genesis 6:5-8 pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. 27Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i’r arch. Wedyn daeth y llifogydd a’u dinistrio nhw i gyd!#gw. Genesis 7:6-24
28“A’r un fath yn amser Lot. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed, yn prynu a gwerthu, yn ffermio ac yn adeiladu. 29Ond wedyn pan adawodd Lot Sodom daeth tân a brwmstan i lawr o’r awyr a’u dinistrio nhw i gyd.#gw. Genesis 18:20–19:25
30“Fel yna’n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i’r golwg. 31Y diwrnod hwnnw fydd yna ddim cyfle i neb sydd y tu allan i’w dŷ fynd i mewn i bacio ei bethau. A ddylai neb sydd allan yn y maes feddwl mynd adre. 32Cofiwch beth ddigwyddodd i wraig Lot!#cyfeiriad at Genesis 19:26 33Bydd y rhai sy’n ceisio achub eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond y rhai sy’n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn. 34Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei adael. 35Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda’i gilydd; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei gadael.”#17:35 cael ei gadael: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn. 36, Bydd dau ddyn yn yr un cae; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei adael.
37“Arglwydd, ble bydd hyn yn digwydd?” gofynnodd y disgyblion.
Atebodd Iesu, “Bydd mor amlwg â’r ffaith fod yna gorff marw lle mae fwlturiaid wedi casglu.”

Dewis Presennol:

Luc 17: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda