Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda’r perlysiau roedden nhw wedi’u paratoi. Dyma nhw’n darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi’i rholio i ffwrdd, a phan aethon nhw i mewn i’r bedd doedd y corff ddim yno! Roedden nhw wedi drysu’n lân, ond yna’n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl. Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw’n plygu gyda’u hwynebau ar lawr o’u blaenau. Yna dyma’r dynion yn gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi’n edrych mewn bedd am rywun sy’n fyw? Dydy Iesu ddim yma; mae yn ôl yn fyw! Dych chi ddim yn cofio beth ddwedodd e pan oedd gyda chi yn Galilea? Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai’n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e’n dod yn ôl yn fyw.” A dyma nhw’n cofio beth roedd wedi’i ddweud. Felly dyma nhw’n gadael y bedd a mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr un ar ddeg disgybl a phawb arall. Aeth Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago, a’r lleill gyda nhw, i ddweud yr hanes wrth yr apostolion. Ond doedd yr apostolion ddim yn eu credu nhw – roedden nhw’n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr.
Darllen Luc 24
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 24:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos