Dyma fam Iago ac Ioan, sef gwraig Sebedeus, yn mynd at Iesu gyda’i meibion. Aeth ar ei gliniau o’i flaen i ofyn ffafr ganddo. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd Iesu iddi. Dyma’r fam yn ateb, “Baswn i’n hoffi i’m meibion i gael eistedd bob ochr i ti pan fyddi’n teyrnasu.” “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi’n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o’r gwpan chwerw dw i’n mynd i yfed ohoni?” “Gallwn,” medden nhw wrtho. Dwedodd Iesu, “Byddwch chi’n yfed o’m cwpan i, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy’n cael eistedd bob ochr i mi. Mae’r lleoedd hynny wedi’u cadw i bwy bynnag mae fy Nhad wedi’u dewis.” Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw’n wyllt gyda’r ddau frawd. Ond dyma Iesu’n eu galw nhw i gyd at ei gilydd a dweud, “Dych chi’n gwybod sut mae’r rhai sy’n llywodraethu’r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i’r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i eraill.
Darllen Mathew 20
Gwranda ar Mathew 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 20:20-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos