“Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo’ch barnu chi. Oherwydd cewch chi’ch barnu yn yr un ffordd â dych chi’n barnu pobl eraill. Y pren mesur dych chi’n ei ddefnyddio ar bobl eraill fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi. “Pam wyt ti’n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!? Sut alli di ddweud, ‘Gad i mi dynnu’r sbecyn yna allan o dy lygad di,’ pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna’r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi’n gweld yn ddigon clir i dynnu’r sbecyn allan o lygad y person arall. “Peidiwch rhoi beth sy’n sanctaidd i gŵn, rhag iddyn nhw ymosod arnoch chi a’ch rhwygo chi’n ddarnau. Peidiwch taflu perlau gwerthfawr i foch, fydd yn gwneud dim ond eu sathru nhw dan draed. “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch ar y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy’n gofyn yn derbyn; pawb sy’n chwilio yn cael; ac mae’r drws yn cael ei agor i bawb sy’n curo. “Pwy ohonoch chi fyddai’n rhoi carreg i’ch plentyn pan mae’n gofyn am fara? Neu neidr pan mae’n gofyn am bysgodyn? Felly os dych chi sy’n ddrwg yn gwybod sut i roi anrhegion da i’ch plant, mae’ch Tad yn y nefoedd yn siŵr o roi rhoddion da i’r rhai sy’n gofyn iddo! Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi. Mae’n egwyddor sy’n crynhoi popeth mae Cyfraith Moses ac ysgrifau’r proffwydi’n ei ddweud.
Darllen Mathew 7
Gwranda ar Mathew 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 7:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos