“Felly dyma sut bobl ydy’r rhai sy’n gwrando arna i ac yna’n gwneud beth dw i’n ddweud. Maen nhw fel dyn call sy’n adeiladu ei dŷ ar graig solet. Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet. Ond mae pawb sy’n gwrando arna i heb wneud beth dw i’n ddweud yn debyg i ddyn dwl sy’n adeiladu ei dŷ ar dywod! Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu’n llwyr.” Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma, roedd y tyrfaoedd yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i’r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.
Darllen Mathew 7
Gwranda ar Mathew 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 7:24-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos