Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDD wedi’i osod yn ben ar y mynyddoedd eraill a’i godi’n uwch na’r bryniau. Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno a llawer o bobl yn mynd yno a dweud: “Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD, a mynd i deml Duw Jacob, iddo ddysgu ei ffyrdd i ni, ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.” Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod, a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Bydd e’n barnu achosion rhwng y cenhedloedd ac yn setlo dadleuon rhwng y gwledydd mawr pell. Byddan nhw’n curo’u cleddyfau yn sychau aradr a’u gwaywffyn yn grymanau tocio. Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd, nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel. Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn. Mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi addo’r peth! Tra mae’r gwledydd o’n cwmpas yn dilyn eu duwiau eu hunain, byddwn ni yn dilyn yr ARGLWYDD ein Duw am byth bythoedd! “Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD, “bydda i’n galw’r rhai cloff, ac yn casglu’r rhai sydd ar chwâl, a’r rhai wnes i eu hanafu. Y rhai cloff fydd y cnewyllyn sydd ar ôl; a bydd y rhai fu ar chwâl yn troi’n genedl gref. Bydd yr ARGLWYDD yn frenin arnyn nhw ar Fynydd Seion, o hyn allan ac am byth!” A byddi di – y tŵr i wylio’r praidd, sef dinas gaerog pobl Seion – yn cael dy safle anrhydeddus yn ôl. Bydd y deyrnas yn perthyn i Jerwsalem.
Darllen Micha 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Micha 4:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos