Nehemeia 1
1
Nehemeia yn clywed am stad Jerwsalem
1Dyma adroddiad gan Nehemeia#1:1 Ystyr yr enw Nehemeia yn Hebraeg ydy “mae’r ARGLWYDD yn cysuro”. fab Hachaleia:
Roedd hi’n fis Cislef#1:1 Cislef Nawfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr. yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes,#1:1 Artaxerxes Artaxerxes I, oedd yn teyrnasu ar Persia o 465 i 425 cc. ac roeddwn i yn y gaer ddinesig yn Shwshan.#1:1 Shwshan Prifddinas talaith Elam, lle roedd brenhinoedd Persia yn aros dros y gaeaf. 2Dyma Chanani (oedd yn perthyn i mi) a dynion eraill o Jwda, yn dod i’m gweld i. A dyma fi’n eu holi nhw am yr Iddewon oedd wedi gadael y gaethglud, a sut oedd pethau yn Jerwsalem.
3A dyma nhw’n ateb, “Mae hi’n galed ar y bobl sydd wedi mynd yn ôl i’r dalaith o’r gaethglud.#1:3 mynd yn ôl … gaethglud Falle fod y geiriad Hebraeg yn cynnwys disgynyddion y bobl hynny oedd wedi gadael ar ôl pan gafodd Jerwsalem ei choncro hefyd. Maen nhw’n cael amser anodd. Mae wal Jerwsalem wedi’i chwalu, a’r giatiau wedi’u llosgi.”
Gweddi Nehemeia
4Pan glywais hyn i gyd, dyma fi’n eistedd i lawr. Rôn i’n crio ac yn galaru am ddyddiau, a bues i’n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd. 5A dyma fi’n dweud, “O ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, plîs! Ti’n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i’r rhai sy’n dy garu di ac yn gwneud beth ti’n ddweud. 6O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i’n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i’n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a’m teulu, a phobl Israel i gyd. 7Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, a heb gadw’r gorchmynion, y rheolau a’r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses. 8Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses:#1:8 Mae adn. 8-9 yn crynhoi beth sydd yn Deuteronomium 30:1-4. ‘Os byddwch chi’n anffyddlon, bydda i’n eich gyrru chi ar chwâl drwy’r gwledydd. 9Ond os byddwch chi’n troi a gwneud beth dw i’n ddweud, hyd yn oed os ydy’r bobl wedi’u chwalu i ben draw’r byd, bydda i’n eu casglu nhw yn ôl i’r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’ 10Dy weision di, dy bobl di ydyn nhw, ac rwyt wedi defnyddio dy rym i’w gollwng nhw’n rhydd. 11Plîs, o ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was, ac ar weddïau pawb arall sy’n awyddus i dy barchu di. Helpa dy was i lwyddo heddiw, a gwna i’r dyn yma fod yn garedig ata i.”
Fi oedd y bwtler oedd yn dod â gwin i’r brenin.
Dewis Presennol:
Nehemeia 1: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: