Nehemeia 9
9
Y bobl yn cyffesu eu pechodau
1Ar y pedwerydd ar hugain o’r un mis dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd eto. Roedden nhw’n ymprydio, yn gwisgo sachliain, ac wedi taflu pridd ar eu pennau. 2Dyma’r rhai oedd yn ddisgynyddion go iawn i bobl Israel yn gwahanu eu hunain oddi wrth bobl o wledydd eraill, a sefyll i gyffesu eu bod nhw a’u hynafiaid wedi pechu a gwneud drwg. 3Buon nhw’n sefyll yno am dair awr, tra oedd Cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw yn cael ei darllen o’r sgrôl, ac yna am dair awr arall yn cyffesu eu pechodau a plygu i lawr i addoli.
4Yna dyma’r Lefiaid – Ieshŵa, Bani, Cadmiel, Shefaneia, Bwnni, Sherefeia, Bani, a Cenani – yn sefyll ar y grisiau yn crio a galw’n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw. 5Wedyn dyma grŵp arall o Lefiaid – Ieshŵa, Cadmiel, Bani, Chashafneia, Sherefeia, Hodeia, Shefaneia, a Pethacheia – yn cyhoeddi, “Safwch ar eich traed a bendithio yr ARGLWYDD eich Duw!”
“Bendith arnat ti, O ARGLWYDD ein Duw, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Boed i dy enw gwych di gael ei fendithio, er nad ydy geiriau’n ddigon i fynegi’r fendith a’r mawl!
6Ti ydy’r ARGLWYDD, a dim ond ti.
Ti wnaeth greu yr awyr, y gofod a’r holl sêr;
y ddaear a phopeth sydd arni,
a’r moroedd a phopeth sydd ynddynt.
Ti sydd yn cynnal y cwbl,
ac mae tyrfa’r nefoedd yn plygu o dy flaen di.
7Ti ydy’r ARGLWYDD Dduw wnaeth ddewis Abram,
a’i arwain allan o Ur yn Babilonia,
a rhoi’r enw Abraham iddo.
8Pan welaist ei fod yn ffyddlon
dyma ti’n ymrwymo gydag e
i roi gwlad Canaan i’w ddisgynyddion –
tir yr Hethiaid a’r Amoriaid,
y Peresiaid, y Jebwsiaid a’r Girgasiaid.
A dyma ti’n cadw dy air,
am dy fod ti’n gwneud beth sy’n iawn.
9Gwelaist ein hynafiaid yn dioddef yn yr Aifft,
a chlywaist nhw’n gweiddi am help wrth y Môr Coch.#9:9 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.
10Yna gwnest wyrthiau rhyfeddol i daro’r Pharo
a’i swyddogion, a phobl y wlad, am fod mor greulon.
Ti’n enwog am y pethau yma hyd heddiw.
11Dyma ti’n hollti’r môr o’u blaenau nhw,
iddyn nhw gerdded drwy’r môr ar dir sych!
Yna dyma ti’n taflu’r rhai oedd yn ceisio’u dal i’r dŵr dwfn,
a dyma nhw’n suddo fel carreg dan y tonnau mawr.
12Ti wnaeth arwain dy bobl gyda cholofn o niwl yn y dydd,
a cholofn o dân i oleuo’r ffordd yn y nos.
13Dyma ti’n dod i lawr ar Fynydd Sinai,
a siarad gyda nhw o’r nefoedd.
Rhoddaist ganllawiau teg, dysgeidiaeth wir,
rheolau a gorchmynion da.
14Eu dysgu nhw fod y Saboth yn gysegredig,
a chael Moses i ddysgu
dy orchmynion, dy reolau a’th ddysgeidiaeth iddyn nhw.
15Rhoist fara o’r nefoedd iddyn nhw pan oedden nhw eisiau bwyd;
a dod â dŵr o’r graig pan oedden nhw’n sychedig.
Yna dwedaist wrthyn nhw am fynd i gymryd y tir
roeddet ti wedi addo ei roi iddyn nhw.
16Ond roedd ein hynafiaid yn falch ac ystyfnig,
a wnaethon nhw ddim gwrando ar dy orchmynion di.
17Gwrthodon nhw wrando, ac anghofio’r gwyrthiau
roeddet ti wedi’u gwneud yn eu plith nhw.
Dyma nhw’n gwrthryfela, a dewis arweinydd
i’w harwain nhw yn ôl i’r Aifft.
Ond rwyt ti’n Dduw sydd yn maddau,
rwyt ti mor garedig a thrugarog,
mor amyneddgar ac mor anhygoel o hael!#Exodus 34:6
Wnest ti ddim hyd yn oed troi cefn arnyn nhw
18pan wnaethon nhw eilun metel ar siâp tarw ifanc
a honni, ‘Dyma’r duw ddaeth â chi allan o’r Aifft!’
neu pan oedden nhw’n cablu yn ofnadwy.
19Am dy fod ti mor drugarog,
wnest ti ddim troi cefn arnyn nhw yn yr anialwch.
Roedd y golofn o niwl yn dal i’w harwain yn y dydd,
a’r golofn dân yn dal i oleuo’r ffordd iddyn nhw yn y nos.
20Dyma ti’n rhoi dy ysbryd da i’w dysgu nhw.
Wnest ti ddim stopio rhoi manna iddyn nhw i’w fwyta,
a dal i roi dŵr i dorri eu syched.
21Dyma ti’n eu cynnal nhw am bedwar deg mlynedd.
Er eu bod yn yr anialwch, doedden nhw’n brin o ddim;
wnaeth eu dillad ddim treulio, a’u traed ddim chwyddo.#Deuteronomium 8:4
22Yna dyma ti’n rhoi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw,
a rhannu pob cornel o’r tir rhyngddyn nhw.
Dyma nhw’n meddiannu tir Sihon, brenin Cheshbon,
a thir Og, brenin Bashan.
23Dyma ti’n rhoi cymaint o ddisgynyddion iddyn nhw
ag sydd o sêr yn yr awyr.
A dod â nhw i’r tir roeddet ti wedi dweud
wrth eu tadau eu bod i’w feddiannu.
24A dyma’r disgynyddion yn mynd i mewn a’i gymryd.
Ti wnaeth goncro’r Canaaneaid oedd yn byw yn y wlad.
Ti wnaeth roi’r fuddugoliaeth iddyn nhw –
iddyn nhw wneud fel y mynnan nhw â’r bobl a’u brenhinoedd.
25Dyma nhw’n concro trefi caerog
a chymryd tir ffrwythlon.
Meddiannu tai yn llawn o bethau da,
pydewau wedi’u cloddio, gwinllannoedd,
gerddi olewydd, a digonedd o goed ffrwythau.
Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a phesgi;
roedden nhw’n byw’n fras ar dy holl ddaioni.
26Ond dyma nhw’n dechrau bod yn anufudd
a gwrthryfela yn dy erbyn.
Troi cefn ar dy Gyfraith a lladd dy broffwydi
fu’n eu siarsio i droi’n ôl atat ti
– roedden nhw’n cablu yn ofnadwy.
27Felly dyma ti’n gadael i’w gelynion
eu gorchfygu a’u gorthrymu.
Ond dyma nhw’n gweiddi am dy help
o ganol eu trafferthion,
a dyma ti’n gwrando o’r nefoedd.
Am dy fod ti mor barod i dosturio,
dyma ti’n anfon rhai i’w hachub o afael eu gelynion.
28Ond yna, pan oedden nhw’n gyfforddus eto,
dyma nhw’n mynd yn ôl i’w ffyrdd drwg.
Felly dyma ti’n gadael i’w gelynion
gael y llaw uchaf arnyn nhw.
Wedyn bydden nhw’n gweiddi am dy help di eto,
a byddet tithau’n gwrando o’r nefoedd
ac yn eu hachub nhw dro ar ôl tro
am dy fod mor drugarog.
29Yna roeddet ti’n eu siarsio i droi’n ôl at dy Gyfraith di,
ond roedden nhw’n falch ac yn gwrthod gwrando ar dy orchmynion.
Dyma nhw’n gwrthod dy ganllawiau –
y rhai sy’n rhoi bywyd i’r sawl sy’n ufudd iddyn nhw.
Aethon nhw’n fwy a mwy ystyfnig;
a gwrthryfela yn lle bod yn ufudd.
30Buost mor amyneddgar hefo nhw, am flynyddoedd lawer.
Buodd dy Ysbryd yn eu siarsio drwy’r proffwydi.
Ond doedden nhw ddim am wrando,
felly dyma ti’n gadael i bobloedd gwledydd eraill eu gorchfygu.
31Ac eto, am dy fod ti mor drugarog,
wnest ti ddim cael gwared â nhw yn llwyr;
wnest ti ddim troi dy gefn arnyn nhw.
Rwyt ti mor garedig a thrugarog!
32Felly, o ein Duw – y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol,
sy’n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael –
dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria
(ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a’n hynafiaid);
paid meddwl mai peth bach ydy hyn.
33Roeddet ti’n iawn yn gadael i’r cwbl ddigwydd i ni.
Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon; ni sydd wedi bod ar fai.
34Wnaeth ein brenhinoedd a’n harweinwyr,
ein hoffeiriaid a’n hynafiaid,
ddim cadw dy gyfraith, dy ganllawiau a’th orchmynion.
35Wnaethon nhw ddim dy wasanaethu di
na throi cefn ar eu ffyrdd drwg,
hyd yn oed pan oedd popeth ganddyn nhw:
teyrnas, dy ddaioni rhyfeddol tuag atyn nhw,
a’r tir da a ffrwythlon wnest ti ei roi iddyn nhw.
36A dyma ni, heddiw, yn gaethweision
yn y tir ffrwythlon wnest ti ei roi i’n hynafiaid!
Ydyn, dŷn ni’n gaethweision yma!
37Mae’r holl gnydau sy’n tyfu yma
yn mynd i’r brenhinoedd rwyt ti wedi’u rhoi i’n rheoli,
o achos ein pechodau.
Maen nhw’n ein rheoli ni a’n hanifeiliaid,
ac yn gwneud fel y mynnan nhw!
Mae hi’n galed arnon ni!
Y bobl yn addo bod yn ffyddlon
38“O achos hyn i gyd dŷn ni, bobl Israel, yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig. Mae ein harweinwyr, ein Lefiaid a’n hoffeiriaid wedi arwyddo’r ddogfen, a’i selio.”
Dewis Presennol:
Nehemeia 9: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: