Numeri 2
2
Trefn y Llwythau yn y gwersyll
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: 2Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu’r Tabernacl. Mae pawb i wersylla dan fflag eu llwyth eu hunain. 3-9Ar yr ochr ddwyreiniol, bydd adrannau’r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth | Arweinydd | Nifer |
---|---|---|
Jwda | Nachshon fab Aminadab | 74,600 |
Issachar | Nethanel fab Tswár | 54,400 |
Sabulon | Eliab fab Chelon | 57,400 |
Cyfanswm: | 186,400 |
Y milwyr ar ochr Jwda i’r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.
10-16I’r de, bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth | Arweinydd | Nifer |
---|---|---|
Reuben | Eliswr fab Shedeŵr | 46,500 |
Simeon | Shelwmiel fab Swrishadai | 59,300 |
Gad | Eliasaff fab Dewel#2:10-16 gw. Numeri 1:14, a llawer o lawysgrifau Hebraeg. | 45,650 |
Cyfanswm: | 151,450 |
Y milwyr yma ar ochr Reuben i’r gwersyll fydd yn ail i symud allan.
17Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda phabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae’r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.
18-24Ar yr ochr orllewinol, bydd adrannau’r tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth | Arweinydd | Nifer |
---|---|---|
Effraim | Elishama fab Amihwd | 40,500 |
Manasse | Gamaliel fab Pedatswr | 32,200 |
Benjamin | Abidan fab Gideoni | 35,400 |
Cyfanswm: | 108,100 |
Y milwyr yma ar ochr Effraim i’r gwersyll fydd yn drydydd i symud allan.
25-31I’r gogledd, bydd adrannau’r tri llwyth olaf yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth | Arweinydd | Nifer |
---|---|---|
Dan | Achieser fab Amishadai | 62,700 |
Asher | Pagiel fab Ochran | 41,500 |
Nafftali | Achira fab Enan | 53,400 |
Cyfanswm: | 157,600 |
Y milwyr yma ar ochr Dan i’r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.
32Dyma’r rhai gafodd eu cyfrif o bobl Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd oedd 603,550. 33Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn i Moses. 34Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Dewis Presennol:
Numeri 2: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023