Numeri 36
36
Merched Seloffchad
1Dyma arweinwyr clan Gilead (disgynyddion i Machir, mab Manasse fab Joseff), yn dod at Moses ac arweinwyr eraill Israel gyda cais. 2“Dwedodd yr ARGLWYDD wrth ein meistr am ddefnyddio coelbren wrth rannu’r tir rhwng pobl Israel. Dwedodd hefyd y dylid rhoi tir ein brawd Seloffchad i’w ferched. 3Ond petai un ohonyn nhw’n priodi dyn o lwyth arall, byddai eu tir nhw’n mynd i’r llwyth hwnnw, a byddai gynnon ni lai o dir. 4A phan fydd hi’n flwyddyn y rhyddhau mawr,#36:4 blwyddyn y rhyddhau mawr Dyma “Flwyddyn y Jiwbili”. Roedd tir ac eiddo i’w roi yn ôl i’r perchennog gwreiddiol (gw. Lefiticus 25:10). bydd y tir yn aros yn nwylo’r llwyth maen nhw wedi priodi i mewn iddo – bydd yn cael ei dynnu oddi ar etifeddiaeth ein llwyth ni.”
5Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses am roi’r rheol yma i bobl Israel: “Mae beth mae’r dynion o lwyth meibion Joseff yn ei ddweud yn iawn. 6Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei orchymyn sydd i ddigwydd gyda merched Seloffchad: Maen nhw’n rhydd i briodi pwy bynnag maen nhw eisiau o fewn eu llwyth eu hunain. 7Wedyn fydd y tir mae pobl Israel wedi’i etifeddu ddim yn symud o un llwyth i’r llall – bydd pawb yn cadw’r tir wnaethon nhw’i etifeddu gan eu hynafiaid. 8Rhaid i bob merch sydd wedi etifeddu tir gan ei hynafiaid, pa lwyth bynnag mae’n perthyn iddo, briodi rhywun o fewn ei llwyth ei hun. Wedyn bydd pawb yn Israel yn cadw’r tir maen nhw wedi’i etifeddu gan eu hynafiaid. 9Dydy’r tir gafodd ei etifeddu ddim i basio o un llwyth i’r llall. Mae pob llwyth yn Israel i gadw’r tir gafodd ei roi iddo.”
10A dyma ferched Seloffchad yn gwneud fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. 11Dyma nhw i gyd – Machla, Tirtsa, Hogla, Milca a Noa – yn priodi cefndryd ar ochr eu tad o’r teulu. 12Dyma nhw’n priodi dynion oedd yn perthyn i lwyth Manasse fab Joseff, ac felly arhosodd y tir roedden nhw wedi’i etifeddu o fewn llwyth eu hynafiaid.
13Dyma’r gorchmynion a’r rheolau wnaeth yr ARGLWYDD eu rhoi i bobl Israel drwy Moses ar wastatir Moab, wrth afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
Dewis Presennol:
Numeri 36: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023