Pwy sy’n gallu dod o hyd i wraig dda? Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau. Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi’n llwyr, ac ar ei ennill bob amser. Mae hi’n dda iddo bob amser, a byth yn gwneud drwg. Mae hi’n edrych am wlân a defnydd arall ac yn mwynhau gweu a gwnïo. Mae hi fel fflyd o longau masnach yn cario bwyd o wledydd pell. Mae hi’n codi yn yr oriau mân i baratoi bwyd i’w theulu, a rhoi gwaith i’w morynion. Mae hi’n meddwl yn ofalus cyn prynu cae, a defnyddio’i harian i blannu gwinllan ynddo. Mae hi’n bwrw iddi’n frwd, ac yn gweithio’n galed. Mae hi’n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo; dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy’r nos. Mae hi’n brysur yn nyddu â’i dwylo, a’i bysedd yn trin y gwlân. Mae hi’n rhoi yn hael i’r tlodion, ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen. Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira, am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw. Mae hi’n gwneud cwiltiau i’r gwely, a dillad o liain main drud. Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas, ac yn eistedd gyda’r arweinwyr i gyd. Mae hi’n gwneud defnydd i’w werthu, a dillad i’r masnachwyr eu prynu. Mae hi’n wraig o gymeriad cryf ac urddasol, ac yn edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus. Mae hi’n siarad yn ddoeth bob amser, ac yn garedig wrth ddysgu eraill. Mae hi’n gofalu am y teulu i gyd, a dydy hi byth yn segur. Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni; ac mae ei gŵr yn ei chanmol i’r cymylau, “Mae yna lawer o ferched da i’w cael, ond rwyt ti’n well na nhw i gyd.” Mae prydferthwch yn gallu twyllo, a harddwch yn arwynebol. Gwraig sy’n parchu’r ARGLWYDD sydd yn haeddu cael ei chanmol. Rhowch glod iddi am beth mae wedi’i gyflawni, a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith.
Darllen Diarhebion 31
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 31:10-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos