Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 5

5
Bod yn ffyddlon i dy wraig
1Fy mab, clyw, dyma gyngor doeth i ti;
gwrando’n ofalus ar beth dw i’n ddweud.
2Er mwyn i ti fynd y ffordd iawn,
ac i dy eiriau bob amser fod yn ddoeth.
3Mae gwefusau’r wraig anfoesol yn diferu fel mêl,
a’i geiriau hudol yn llyfn fel olew;
4Ond mae hi’n troi allan i fod yn chwerw fel y wermod,
ac yn finiog fel cleddyf.
5Mae ei dilyn hi yn arwain at farwolaeth;
mae ei chamau yn arwain i’r bedd.
6Dydy hi’n gwybod dim am fywyd go iawn;
mae hi ar goll – a ddim yn sylweddoli hynny.
7Felly, fy mab, gwrando’n ofalus arna i,
a phaid troi cefn ar beth dw i’n ddweud.
8Cadw draw oddi wrthi hi!
Paid mynd yn agos at ddrws ei thŷ hi,
9rhag i ti golli pob hunan-barch,
ac i’w gŵr creulon gymryd dy fywyd oddi arnat ti.
10Rhag i bobl ddieithr lyncu dy gyfoeth di,
ac i rywun arall gael popeth rwyt ti wedi gweithio’n galed amdano.
11Wedyn byddi’n griddfan yn y diwedd,
pan fydd dy gorff wedi’i ddifetha.
12Byddi’n dweud,
“Pam wnes i gasáu disgyblaeth gymaint?
Pam wnes i wrthod cymryd sylw o gerydd?
13Pam wnes i ddim gwrando ar fy athrawon,
a chymryd sylw o’r rhai oedd yn fy nysgu i?
14Bu bron i bopeth chwalu’n llwyr i mi,
a hynny o flaen pawb yn y gymdeithas.”
15Yfed ddŵr o dy ffynnon dy hun,
ei dŵr ffres hi, a dim un arall.
16Fyddet ti eisiau i ddŵr dy ffynnon di
lifo allan i’r strydoedd?
17Na, cadw hi i ti dy hun,
paid gadael i neb arall ei chael.
18Gad i dy ffynnon gael ei bendithio!
Mwynha dy hun gyda’r wraig briodaist ti pan oeddet ti’n ifanc
19– dy ewig hyfryd, dy afr dlos.
Gad i’w bronnau roi boddhad i ti,
i ti ymgolli yn ei chariad bob amser.
20Fy mab, pam gwirioni ar ferch anfoesol?
Ydy anwesu bronnau gwraig rhywun arall yn iawn?
21Cofia fod Duw yn gweld popeth ti’n wneud.
Mae’n gweld y cwbl, o’r dechrau i’r diwedd.
22Bydd yr un sy’n gwneud drwg yn cael ei ddal gan ei ddrygioni –
bydd wedi’i rwymo gan raffau ei bechod ei hun.
23Bydd yn marw am fod ganddo ddim disgyblaeth,
ac wedi meddwi ar chwarae’r ffŵl.

Dewis Presennol:

Diarhebion 5: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda