Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 113

113
Moli daioni’r ARGLWYDD
1Haleliwia!
Molwch e, weision yr ARGLWYDD!
Molwch enw’r ARGLWYDD!
2Boed i enw’r ARGLWYDD gael ei fendithio,
nawr ac am byth.
3Boed i enw’r ARGLWYDD gael ei foli
drwy’r byd i gyd!
4Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu dros yr holl genhedloedd!
Mae ei ysblander yn uwch na’r nefoedd.
5Does neb tebyg i’r ARGLWYDD ein Duw,
sy’n eistedd ar ei orsedd uchel!
6Mae’n plygu i lawr i edrych
ar y nefoedd a’r ddaear oddi tano.
7Mae e’n codi pobl dlawd o’r baw,
a’r rhai sydd mewn angen o’r domen sbwriel.
8Mae’n eu gosod i eistedd gyda’r bobl fawr,
ie, gydag arweinwyr ei bobl.
9Mae’n rhoi cartref i’r wraig ddi-blant,
ac yn ei gwneud hi’n fam hapus.
Haleliwia!

Dewis Presennol:

Salm 113: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda