Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 12

12
Gweddi am help
I’r arweinydd cerdd: Ar yr wythfed.#12:0 wythfed Falle mai cyfeiriad at offeryn cerdd gydag wyth tant sydd yma. Salm Dafydd.
1Help, ARGLWYDD!
Does neb ffyddlon ar ôl!
Mae’r rhai sy’n driw wedi diflannu.
2Mae pawb yn dweud celwydd wrth ei gilydd;
maen nhw’n seboni ond yn ddauwynebog.
3Boed i’r ARGLWYDD roi stop ar eu geiriau ffals,
a rhoi taw ar bob tafod sy’n brolio!
4“Gallwn wneud unrhyw beth!” medden nhw.
“Gallwn ddweud beth leiciwn ni!
Dŷn ni’n atebol i neb!”
5Ond meddai’r ARGLWYDD:
“Am fod yr anghenus yn dioddef trais,
a’r tlawd yn griddfan mewn poen,
dw i’n mynd i weithredu.
Bydda i’n ei gadw’n saff;
ie, dyna mae’n dyheu amdano.”
6Mae geiriau’r ARGLWYDD yn wir.
Maen nhw fel arian wedi’i buro mewn ffwrnais bridd,
neu aur wedi’i goethi’n drwyadl.
7Byddi’n gofalu amdanon ni, ARGLWYDD,
Byddwn ni’n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma
8sy’n cerdded o gwmpas yn falch,
a phobl yn canmol y pethau ofnadwy maen nhw’n eu gwneud!

Dewis Presennol:

Salm 12: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda