Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 71

71
Gweddi rhywun mewn oed
1Dw i’n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD;
paid gadael i mi gael fy siomi.
2Rwyt ti’n gyfiawn, felly achub fi a gollwng fi’n rhydd.
Gwranda arna i! Achub fi!
3Bydd yn graig i mi gysgodi tani –
yn gaer lle bydda i’n hollol saff!
Ti ydy’r graig ddiogel yna; ti ydy’r gaer.
4Fy Nuw, achub fi o ddwylo’r rhai drwg,
ac o afael y rhai anghyfiawn a chreulon.
5Achos ti ydy fy ngobaith i,
fy meistr, fy ARGLWYDD.
Dw i wedi dy drystio di ers pan o’n i’n ifanc.
6Dw i’n dibynnu arnat ti ers cyn i mi gael fy ngeni;
ti wedi gofalu amdana i o groth fy mam,
a thi ydy testun fy mawl bob amser.
7Dw i wedi bod yn destun rhyfeddod i lawer,
am dy fod ti wedi bod yn lle saff, cadarn i mi.
8Dw i’n dy foli di drwy’r adeg,
ac yn dy ganmol drwy’r dydd.
9Paid taflu fi i ffwrdd yn fy henaint,
a’m gadael wrth i’r corff wanhau.
10Mae fy ngelynion yn siarad amdana i,
a’r rhai sy’n gwylio fy mywyd yn cynllwynio.
11“Mae Duw wedi’i adael,” medden nhw.
“Ewch ar ei ôl, a’i ddal;
fydd neb yn dod i’w achub!”
12O Dduw, paid mynd yn rhy bell!
Fy Nuw, brysia i’m helpu i!
13Gad i’r rhai sy’n fy erbyn i gael eu cywilyddio’n llwyr.
Gad i’r rhai sydd am wneud niwed i mi
gael eu gwisgo mewn gwarth a chywilydd!
14Ond bydda i’n gobeithio bob amser,
ac yn dal ati i dy foli di fwy a mwy.
15Bydda i’n dweud am dy gyfiawnder.
Bydda i’n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti’n achub;
mae cymaint i’w ddweud!
16Dw i’n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti’n eu gwneud
– fy meistr, fy ARGLWYDD
a dathlu’r ffaith dy fod mor gyfiawn – ie, ti yn unig!
17O Dduw, dw i wedi profi’r peth ers pan oeddwn i’n ifanc,
ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddol
rwyt ti’n eu gwneud hyd heddiw.
18Dw i bellach yn hen a’m gwallt yn wyn,
ond paid gadael fi nawr, O Dduw.
Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddod
am dy gryfder a’r pethau mawr rwyt ti’n eu gwneud.
19Mae dy gyfiawnder yn cyrraedd y nefoedd, O Dduw!
Ti wedi gwneud pethau mor fawr –
O Dduw, does neb tebyg i ti!
20Er i ti adael i mi wynebu pob math o brofiadau chwerw,
wnei di adael i mi fyw eto?
Wnei di fy nghodi eto o ddyfnderoedd y ddaear?
21Adfer fy enw da!
Cysura fi unwaith eto.
22Yna byddaf yn dy foli gyda’r nabl,
a chanmol dy ffyddlondeb, O fy Nuw!
Bydda i’n canu i ti gyda’r delyn,
O Un Sanctaidd Israel.
23Bydda i’n gweiddi’n llawen,
ac yn canu i ti go iawn –
ie, â’m holl nerth, am i ti ngollwng i’n rhydd.
24Fydda i ddim yn stopio sôn am dy gyfiawnder.
Bydd y rhai oedd am wneud niwed i mi yn cael eu siomi a’u cywilyddio!

Dewis Presennol:

Salm 71: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda