Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 76

76
Y Duw sy’n ennill pob brwydr
I’r arweinydd cerdd. Salm gan Asaff i gyfeiliant offerynnol. Cân.
1Mae pawb yn Jwda’n gwybod am Dduw;
mae ganddo enw da yn Israel.
2Mae’n byw ar Fynydd Seion,
yn Jerwsalem, dinas heddwch.
3Dyna lle torrodd e’r saethau tanllyd,
y darian, y cleddyf, a’r holl arfau rhyfel.
Saib
4Ti ydy’r Un Disglair, yr Un Hardd
sy’n dod i lawr o’r mynyddoedd
ar ôl trechu dy elynion.
5Cafodd eu milwyr dewr eu hysbeilio!
Maen nhw’n ‘cysgu’ am y tro olaf!
Doedd y rhyfelwr cryfaf ddim yn gallu codi bys!
6Dyma ti’n rhoi bloedd, O Dduw Jacob,
ac roedd pob marchog a gyrrwr cerbyd yn farw.
7O, rwyt ti mor rhyfeddol!
Pwy sy’n gallu sefyll yn dy erbyn
pan wyt ti’n ddig?
8Wrth i ti gyhoeddi dy ddedfryd o’r nefoedd,
roedd y ddaear wedi’i pharlysu gan ofn,
9wrth weld Duw yn codi i farnu
ac achub y rhai sy’n cael eu cam-drin yn y tir.
Saib
10Bydd rhai mwyaf ffyrnig y ddaear yn dy gydnabod
pan fyddi’n dangos dy ddigofaint yn llawn.
11Gwnewch addunedau i’r ARGLWYDD eich Duw, a’u cadw!
Boed i bawb sydd o’i gwmpas ddod â rhoddion
i’r Duw sydd i’w ofni!
12Mae’n torri crib y llywodraethwyr balch,
ac yn dychryn brenhinoedd y ddaear.

Dewis Presennol:

Salm 76: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda