Ond mae Duw bellach wedi dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn gydag e. Dim cadw’r Gyfraith Iddewig ydy’r ffordd, er bod y Gyfraith a’r Proffwydi yn dangos y ffordd i ni. Y rhai sy’n credu sy’n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae’r un fath i bawb am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau’u hunain. Duw sy’n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i’n gollwng ni’n rhydd. Drwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e’n aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e. Ac mae’n dangos ei fod yn dal yn berffaith deg, wrth iddo dderbyn y rhai sy’n credu yn Iesu i berthynas iawn ag e’i hun. Felly oes gynnon ni’r Iddewon le i frolio? Nac oes! Pam ddim? – Yn wahanol i gadw’r Gyfraith Iddewig dydy credu ddim yn rhoi unrhyw le i ni frolio. A dŷn ni’n hollol siŵr mai credu yn Iesu sy’n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dim ein gallu ni i wneud beth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Neu ydyn ni’n ceisio honni mai Duw’r Iddewon yn unig ydy Duw? Onid ydy e’n Dduw ar y cenhedloedd eraill i gyd hefyd? Wrth gwrs ei fod e – “Un Duw sydd” ac un ffordd sydd o gael ein derbyn i berthynas iawn gydag e hefyd. Mae e’n derbyn Iddewon (sef ‘pobl yr enwaediad’) drwy iddyn nhw gredu, ac mae e’n derbyn pawb arall (sef ‘pobl sydd heb enwaediad’) yn union yn yr un ffordd. Os felly, ydy hyn yn golygu y gallwn ni anghofio Cyfraith Duw? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni’n dangos beth ydy gwir ystyr y Gyfraith.
Darllen Rhufeiniaid 3
Gwranda ar Rhufeiniaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 3:21-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos