Rhufeiniaid 4
4
Perthynas Abraham gyda Duw
1Ond beth am Abraham felly – tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i’w ddysgu i ni am hyn i gyd? 2Os cafodd Abraham ei dderbyn gan Dduw am beth wnaeth e, roedd ganddo le i frolio. Ond dim felly oedd hi o safbwynt Duw. 3Dyma mae’r ysgrifau’n ei ddweud amdano: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”#Genesis 15:6
4Pan mae rhywun yn gweithio mae’n ystyried ei gyflog fel rhywbeth mae’n ei haeddu, dim fel rhodd. 5Ond wrth gredu bod Duw yn derbyn pobl annuwiol i berthynas iawn ag e’i hun, dydy rhywun ddim yn dibynnu ar beth mae e’i hun wedi’i wneud. Mae’r “berthynas iawn gyda Duw” yn cael ei roi iddo fel rhodd. 6Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae’n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy’n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny):
7 “Mae’r rhai sydd wedi cael maddeuant
am y pethau drwg wnaethon nhw
wedi’u bendithio’n fawr!
y rhai sydd â’u pechodau
wedi’u symud o’r golwg am byth.
8 Mae’r rhai dydy’r Arglwydd ddim yn dal ati
i gyfri eu pechod yn eu herbyn
wedi’u bendithio’n fawr!” #
Salm 32:1-2 (LXX)
9Ai dim ond Iddewon (sef ‘pobl yr enwaediad’) sy’n cael profi’r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‘pobl sydd heb enwaediad’)?
Gadewch i ni droi’n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai drwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw. 10Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd drwy’r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu! 11Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu – a hynny fel arwydd o’r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi’i dderbyn i berthynas iawn ag e’i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy’n credu ond ddim wedi bod drwy’r ddefod o gael eu henwaedu. 12Ond mae hefyd yn dad i’r rhai sy’n credu ac wedi cael eu henwaedu – dim am eu bod nhw wedi bod drwy’r ddefod ond am eu bod wedi credu, yr un fath ag Abraham.
13Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu’r ddaear.#gw. Genesis 17:4-6; 22:17,18 Cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu sy’n dod â’r addewid yn wir, dim gwneud beth mae’r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. 14Os mai’r etifeddion ydy’r rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n iawn am eu bod nhw’n ufudd i’r Gyfraith Iddewig, dydy credu yn dda i ddim – yn wir does dim pwynt i Dduw addo dim byd yn y lle cyntaf! 15Beth mae’r Gyfraith yn ei wneud ydy dangos ein bod ni’n haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Os does dim cyfraith does dim trosedd. 16Felly credu ydy’r ffordd i dderbyn beth mae Duw wedi’i addo! Rhodd Duw ydy’r cwbl! Ac mae disgynyddion Abraham i gyd yn ei dderbyn. Nid dim ond Iddewon sydd â’r Gyfraith ganddyn nhw, ond pawb sydd wedi credu, yr un fath ag Abraham. Ydy, mae Abraham yn dad i ni i gyd! 17Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn hollol glir: “Dw i wedi dy wneud di’n dad i lawer o genhedloedd.”#Genesis 17:5 Dyna sut mae’r Duw y credodd Abraham ynddo yn gweld pethau. Fe ydy’r Duw sy’n gwneud pobl farw yn fyw ac yn galw i fod bethau oedd ddim yn bodoli o gwbl o’r blaen! 18Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu hyd yn oed pan oedd pethau’n edrych yn gwbl anobeithiol! Credodd y byddai yn “dad i lawer o genhedloedd.” Credodd beth ddwedodd Duw, “Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.”#Genesis 17:5; Genesis 15:5 19Daliodd ati i gredu’n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam.#gw. Genesis 17:17 20Ond wnaeth Abraham ddim amau, na stopio credu beth oedd Duw wedi’i addo iddo. Yn wir roedd yn credu’n gryfach bob dydd, ac yn clodfori Duw drwy wneud hynny. 21Roedd Abraham yn hollol sicr y gallai Duw wneud beth roedd wedi addo’i wneud. 22Dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw!#Genesis 15:6
23Ond dydy’r geiriau “cafodd ei dderbyn” ddim ar gyfer Abraham yn unig – 24maen nhw ar ein cyfer ninnau hefyd! Gallwn ni gael perthynas iawn gyda Duw yr un fath – ni sy’n credu yn y Duw gododd ein Harglwydd Iesu yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. 25Cafodd Iesu ei ladd am ein bod ni wedi troseddu, a chafodd ei godi yn ôl yn fyw i ni gael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 4: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023

: