Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Caniad Solomon 6

6
Merched Jerwsalem:
1Ble’r aeth dy gariad, ti’r harddaf o ferched?
Ble’r aeth e?
Gad i ni chwilio amdano gyda’n gilydd.
Y ferch:
2Mae nghariad wedi mynd i lawr i’w ardd –
i’w welyau o berlysiau.
Mae wedi mynd i bori yn y gerddi,
a chasglu’r lilïau.
3Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad;
mae e’n pori yng nghanol y lilïau.
Y bumed gerdd
Y cariad:
4F’anwylyd, rwyt ti’n hardd fel dinas Tirtsa,#6:4 Tirtsa Ar ôl i Solomon farw dyma lwythau’r gogledd, dan arweiniad Jeroboam, yn gwahanu oddi wrth Jwda yn y de. Tirtsa oedd prifddinas y deyrnas ogleddol am dros hanner can mlynedd – gw. 1 Brenhinoedd 14:17; 15:21,33; 16:6,8,15,23.
ac mor hyfryd â Jerwsalem.
Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!#6:4 Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol! Hebraeg yn aneglur.
5Paid edrych arna i –
mae dy lygaid yn fy aflonyddu!
Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr
yn dod i lawr o fynydd Gilead.
6Mae dy ddannedd yn wyn
fel rhes o ddefaid newydd eu golchi.
Maen nhw i gyd yn berffaith;#6:6 i gyd yn berffaith Hebraeg, “Mae gan bob un ei efaill”.
does dim un ar goll.
7Tu ôl i’r fêl mae dy fochau
a’u gwrid fel pomgranadau.
8Gallwn gael chwe deg brenhines,
wyth deg o bartneriaid,#6:8 bartneriaid Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
a merched ifanc di-rif!
9Ond mae hi’n unigryw,
fy ngholomen berffaith.
Merch arbennig ei mam;
hoff un yr un â’i cenhedlodd.
Mae pob merch ifanc sy’n ei gweld
yn ei hedmygu.
Mae pob brenhines a chariad
yn canu am ei harddwch:
10“Pwy ydy hon sy’n codi fel y wawr?
Pwy ydy hi? – mor hardd â’r lleuad llawn,
mor bur â phelydrau’r haul.
Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”
11Es i lawr i’r berllan lle mae’r coed cnau,
i weld y tyfiant yn y dyffryn;
i weld a oedd y winwydden wedi blaguro,
a’r pomgranadau’n blodeuo.
12Rôn i wedi cynhyrfu’n lân.
Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi,
o ferch fy mhobl fonheddig.#6:12 Ystyr yr Hebraeg yn aneglur.
13Tyrd yma! Tyrd yma ti’r un berffaith!
Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti.
Y ferch:
Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith,
fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll?

Dewis Presennol:

Caniad Solomon 6: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda