Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 10

10
Yr ARGLWYDD yn addo achub
1Gofynnwch i’r ARGLWYDD am law
adeg tymor cawodydd y gwanwyn –
yr ARGLWYDD sy’n anfon y stormydd.
Bydd yn anfon cawodydd trwm o law
a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb.
2Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl,
a’r rhai sy’n dweud ffortiwn yn twyllo
– mae eu breuddwydion yn ffals,
a’u cysur yn ddiwerth.
Felly mae’r bobl yn crwydro fel defaid,
heb fugail i’w hamddiffyn.
3“Dw i wedi gwylltio’n lân gyda ‘bugeiliaid’ y gwledydd,
ac yn mynd i’w cosbi nhw – y ‘bychod’ sydd ar y blaen!”
Mae’r ARGLWYDD hollbwerus
yn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda,
a’u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion.
4Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen,
Ohonyn nhw daw’r peg i ddal y babell,
Ohonyn nhw daw’r bwa rhyfel,
Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf.
5Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydr
yn martsio drwy’r mwd ar faes y gâd.
Am fod yr ARGLWYDD gyda nhw,
byddan nhw’n ymladd
ac yn curo cafalri’r gelyn.
6“Dw i’n mynd i wneud teyrnas Jwda’n gryf,
ac achub pobl Israel.#10:6 Israel Hebraeg, “teulu Joseff”, sef tad Effraim a Manasse, dau brif lwyth Israel (teyrnas y gogledd).
Dw i’n mynd i ddod â nhw’n ôl
a dangos trugaredd atyn nhw –
bydd fel petawn i erioed wedi’u gwrthod nhw.
Fi ydy’r ARGLWYDD eu Duw nhw,
a dw i’n mynd i’w hateb nhw.
7Bydd pobl Israel#10:7 Israel Hebraeg, “Effraim”, sef prif lwyth teyrnas Israel, yn aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. fel milwyr dewr
yn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi.
Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny,
ac yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.
8Dw i’n mynd i chwibanu
i’w casglu nhw at ei gilydd –
dw i’n eu gollwng nhw’n rhydd!
Bydd cymaint ohonyn nhw ag o’r blaen.
9Er i mi eu gwasgaru drwy’r gwledydd,
byddan nhw’n meddwl amdana i mewn mannau pell –
a byddan nhw a’u plant yn dod yn ôl
10Bydda i’n dod â nhw yn ôl o’r Aifft,
ac yn eu casglu nhw o Asyria;
mynd â nhw i dir Gilead a Libanus,
a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.
11Byddan nhw’n croesi’r môr stormus,
a bydd e’n tawelu’r tonnau.
Bydd dŵr dwfn afon Nîl yn sychu,
balchder Asyria’n cael ei dorri,
a’r Aifft yn rheoli ddim mwy.
12Bydda i’n gwneud fy mhobl yn gryf,
a byddan nhw’n byw fel dw i’n dweud,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Dewis Presennol:

Sechareia 10: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda