Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 4

4
PEN. IIII.
Moses yn cael gan Dduw wialen a droe yn sarph, ac a ddatroe. 6 Llaw Moses yn gwahanglwyfo. 10 Moses yn ymescusodi a Duw yn digio, ac yn rhoddi Aaron yn araith-wr iddo. 19 Moses yn myned tua ’r Aipht. 24 Periel ar Moses nes i Saphora enwaedu ar ei mab. 27 Ac Aaron yn cyfarfod Moses.
1Yna Moses a attebodd, ac a ddywedodd, etto wele ni chredant i mi ac ni wrandawant ar fy llais: onid dywedant nid ymgdangosodd yr Arglwydd i ti.
2A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho beth sydd yn dy law? dywedodd yntef gwialen.
3Yna y dywedodd [yr Arglwydd] tafl hi ar y ddaiar, ac efe ai taflodd hi ar y ddaiar; a hi aeth yn sarph, a Moses a giliodd rhacddi.
4Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, estyn dy law ac ymafael yn ei lloscwrn: ac efe a estynnodd ei law ac a ymaflodd ynddi, a hi aeth yn wialen yn ei law ef.
5[Gwna hyn] fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau: Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Iacob.
6A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, dod ti yn awr dy law yn dy fonwes, ac efe a roddodd ei law yn ei fonwes: a [phan] dynnodd ef y hi allan, yna wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira.
7Ac efe a ddywedodd dod eil-waith dy law yn dy fonwes, ac efe a roddodd eil-waith ei law yn ei fonwes: ac ai tynnodd hi allan oi fonwes, ac wele hi a droase fel ei gnawd [arall] ef.
8A bydd oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf: etto y credant i lais yr ail arwydd.
9Ac oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, yna cymmer o ddwfr yr afon a thywallt ar y sych-dir: felly y bydd y dyfroedd y rhai a gymmerech o’r afon yn waed ar y tîr sych.
10A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd [ystyr] wrthif Arglwydd, ni [bum] ŵr ymadroddus vn amser, na chwaith er pan leferaist wrth dy wâs: eithr safn-drwm a thafod-trwm ydwyf.
11Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, pwy a osododd enau i ddŷn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu weledydd, neu ddall? ond myfi’r Arglwydd?
12Am hynny dôs ynawr: a mi a #Matth.10.19.|MAT 10:19. Matth.12.13.fyddaf gyd a’th enau, ac a ddyscaf i ti yr hyn a ddywedech.
13Dywedodd yntef [ystyr] wrthifi Arglwydd, a danfon attolwg gyd a [yr hwn] a ddanfonech.
14Yna’r enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses, ac y dywedodd, ond dy frawd [yw] Aaron y Lefiad? mi a wn y llefara efe yn groiw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod, a phan i’th welo efe a lawenycha yn ei galon.
15Llefara dithe wrtho ef, a gosot y geiriau hynn yn ei enau: a minne a fyddaf gyd a’th enau di, a chyd ai enau yntef, a dyscaf i chwi’r hynn a wneloch.
16A llefared yntef drosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle safn i ti, a thithe a fyddi yn lle Duw iddo yntef.
17Cymmer hefyd y wialen hon yn dy law: yr hon y gwnei wyrthiau a hi.
18Yna Moses aeth ac a ddychwelodd at Iethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, gad i mi fyned attolwg a dychwelyd at fy mrodyr [ydynt] yn yr Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw: a dywedodd Iethro wrth Moses dos mewn heddwch.
19(Canys dywedase’r Arglwydd wrth Moses ym Madian, dôs dychwel i’r Aipht: o herwydd bu feirw yr holl wyr o y rhai oeddynt yn ceisio dy enioes. )
20Yna Moses a gymmerth ei wraig, ai feibion, ac ai rhoddodd hwynt i farchogaeth ar assyn, ac a ddychwelodd tua gwlad yr Aipht: cymmerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law.
21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, pan elech i ddychwelyd i’r Aipht, gwel it wneuthur yr holl ryfeddodau y rhai a roddais yn dy law ger bron Pharao: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymmaith fy bobl.
22Yna dywet wrth Pharao: fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, fy mâb maufi, [sef] fyng-hyntaf-anedic [yw] Israel.
23Am hynny y dywedais wrthit, gollwng fy mab, fel i’m gwasanaetho, ond os gwrthodi ei ollwng ef: wele, mi a laddaf dy fâb di [sef] dy gyntaf-anedic.
24A bu ar y ffordd yn y llettŷ: gyfarfod o’r Arglwydd ag ef, a cheisio ei lâdd ef.
25Ond Sephora a gymmerth [gyllell] lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mâb, ac ai bwriodd i gyffwrdd ai draed ef: ac a ddywedodd, diau dy [fod] yn briod gwaedlyd i mi.
26A[’r Arglwydd] a beidiodd ag ef: (hi a ddywedase yna priod gwaedlyd, o blegit yr enwaediad. )
27Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, dôs i gyfarfod a Moses tua’r anialwch: ac efe aeth ac a gyfarfu ag ef ym mynydd Duw, ac ai cusanodd ef.
28A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau’r Arglwydd yr hwn ai hanfonase ef: a’r holl arwyddion y rhai a orchymynnase efe iddo.
29Yna’r aeth Moses, ac Aaron: ac a gynnullasant holl henuriaid meibion Israel.
30Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau y rhai a lefarase’r Arglwydd wrth Moses: ac a wnaeth yr arwyddion yng-olwg y bobl.
31A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo weled eu gorthrymder, yna hwynt a ymgrymmasant, ac a addolasant.

Dewis Presennol:

Exodus 4: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda