Luc 2
2
PEN. II.
Genedigaeth Crist. 21 Ai enwaediad. 25 Prophwydoliaeth Simeon, ac Anna am dano ef. 46 Yntef yn ymresymmu â’r doctoriaid yn Ierusalem yn ddeuddec oed.
1Bu hefyd yn y dyddiau hynny fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cæsar i drethu yr holl fyd.
2(A’r trethiad ymma, a wnaethbwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhâglaw ar Syria)
3A phawb a aethant iw trethu bob vn iw ddinas ei hun.
4Ac aeth Ioseph o Galilæa o dref Nazareth i Iudæa, i dref Dafydd yr hon a elwir #Ioan.7.42.Bethlehem (am ei fod o dŷ, a thŷlwyth Dafydd:
5Iw drethu gyd â Mair, yr hon a ddyweddiesid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.
6A bu tra’r oeddynt hwy yno, gyflawni ei dyddiau hi i escor.
7A hi a escorodd ar ei mab cyntafanedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a’i rhoddes ef yn y preseb, am nad oedd iddynt le yn y lletty.
8Ac yr oedd yn y wlâd honno fugeiliaid yn aros yn orwedd allan, ac yn gwilied eu praidd liw nos.
9Ac wele angel yr Arglwydd a safodd ger llaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddiscleiriodd o’u hamgylch, ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.
10Yna yr Angel a ddywedodd wrthynt, nac ofnwch, canys yr wyf yn mynegu i chwi lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl:
11Geni i chwi heddyw geidwad yn ninas Dafydd: yr hwn ydyw Cryst yr Arglwydd.
12A hyn [fydd] arwydd i chwi, chwi a gewch y dŷn bach wedi ei rwymo mewn cadachau a’i roddi yn y preseb.
13Ac yn ddisymmwth yr oedd gyd â’r angel nifeiri mawr o luoedd nefol yn moliannu Duw gan ddywedyd,
14Gogoniant i Dduw yn yr vchelder, a thangneddyf ar y ddaiar, i ddynion ewyllys da.
15 # 2.15-21 ☞ Yr Efengyl ar dydd y calan. Ac wedi darfod i’r angelion fyned oddi wrthynt i’r nefoedd, yna y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd: awn hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hyn a ddangosodd yr Arglwydd i ni.
16A hwynt a ddaethant ar frys, ac a gawsant Mair, ac Ioseph: a’r dŷn bach yn gorwedd yn y preseb.
17Pan welsant, hwynt hwy a gyhoeddasant yr hyn a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwnnw.
18A phawb a’r a’u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedase y bugeiliaid iddynt.
19Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll gan eu hystyried hwynt yn ei chalon.
20A’r bugeiliaid a ddychwelasant gan ogoneddu a moliannu Duw, am bôb peth a’r a glywsent, ac a welsent, fel y dywedasid iddynt.
21Aphan ddaeth yr #Gen.17.12.|GEN 17:12. Lefit.12.3.wythfed dydd i enwaedu ar y bachgen, #Luc.1.31. Math.1.21. Ioan.7.22galwyd ei enw ef Iesu, yr hwn a henwasid gan yr angel cyn ei genhedlu ef yn y groth.
22 # 2.22-40 ☞ Yr Efengyl ar ddydd puredigaeth Mair. Ac wedi cyflawni dyddiau puredigaeth [Mair,] yn ôl *deddf Moses, hwynt a’i dugasant ef i Ierusalem iw gyflwyno i’r Arglwydd,
23(Fel yr scrifennir yn neddf yr Arglwydd: #Lefit.12.6. Exod.13.2. Num.8.18.pob gwryw cyntafanedic a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd)
24Ac i roddi offrwm, yn ôl yr hyn a ddywedir #Lefit.12.6.yn neddf yr Arglwydd: pâr o durturod neu ddau gyw colomen.
25Ac wele yr oedd gŵr yn Ierusalem a’i enw Simeon, hwnnw oedd ŵr cyfiawn a duwiol, ac yn disgwil am ddiddanwch yr Israel, a’r Yspryd glân oedd arno.
26Ac yr oeddid wedi ei rybuddio ef gan yr Yspryd glân na wele efe angeu cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.
27Efe a ddaeth trwy’r Yspryd i’r Deml, a phan ddug ei rieni y bachgen Iesu, i wneuthur trosto yn ôl defod y gyfraith:
28Efe a’i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a foliannodd Dduw gan ddywedyd:
29Yr awran y gollyngi dy wâs mewn tangneddyf ô Arglwydd, yn ôl dy air,
30Canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth,
31Yr hon a baratoaist yng-ŵydd yr holl bobloedd,
32Goleuni i dywynnu i’r cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel.
33A rhyfeddu a wnaeth Ioseph a’i fam ef, am y pethau a ddywedwyd am dano ef.
34A Simeon a’i bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Fair ei fam ef: #Esa.8.14. Rhuf.9.32. 1.Pet.2.8.Wele, hwn a osodwyd yn gwymp, ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd i ddywedyd yn ei erbyn.
35(A thrwy dŷ enaid di dy hun yr aiff y cleddyf) i ddadcuddio meddyliau llawer o galonnau.
36Ac yr oedd Anna brophwydes merch Phanuel o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawnwedi iddi fyw gyd â gŵr saith mlynedd, o’i morwyndod:
37Ac yn weddw yng-hylch pedair a phedwar vgain mhlynedd: yr hon nid ae allan o’r Deml, gan wasanaethu [Duw] mewn ymprydiau a gweddiau, dydd a nos.
38A hon hefyd yn yr awr honno gan sefyll ger llaw a gyd-foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd am dano ef wrth y rhai oll oeddynt yn Ierusalem yn edrych am ymwared.
39Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, dychwelasant i Galilæa iw dinas Nazareth.
40A’r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhaodd yn yr Yspryd, yn llawn o ddoethineb: a grâs Duw oedd gyd ag ef.
41A’i rieni ef a aent i Ierusalem bôb blwyddyn #Deut.16.1.ar ŵyl y Pasc.
42Pan oedd efe yn ddeuddeng-mlwydd oed, hwynt hwy a aethant i fynu i Ierusalem yn ôl defod yr ŵyl.
43Wedi gorphen y dyddiau, a hwynt yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierusalem: yr hwn beth ni wydde Ioseph a’i fam ef.
44Eithr gan dybied ei fod efe yn y fintai, myned a wnaethant daith diwrnod, ac hwy a’i ceisiasant ef ym mhlith eu cenedl a’i cydnabod.
45A phryd na chawsant ef, hwynt a ddychwelasant i Ierusalem, gan ei geisio ef.
46A bu yn ôl tri-diau gael o honynt hwy ef yn y Deml yn eistedd yng-hanol y doctoriaid yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.
47A synnu a wnaeth pawb ar a’i clywsant ef, am ei ddoethineb a’i attebion.
48A phan welsant ef rhyfeddu a wnaethant, a’i fam a ddywedodd wrtho: fy mab pa ham y gwnaethost felly â ni? wele dy dad a minne yn ofidus a’th geisiasom di.
49Ac efe a ddywedodd wrthynt: Pa ham y ceisiech fi? oni ŵyddech fod yn rhaid i mi fod yng-hylch y pethau a berthynant i’m Tad?
50Eithr hwynt ni ddeallasant y geiriau a ddywedodd efe wrthynt.
51Yna yr aeth efe i wared gyd â hwynt, ac y daeth i Nazareth, ac a fu vfudd iddynt.
52 A’i fam ef a gadwodd yr holl bethau hyn yn ei chalon.
53A’r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafor gyd â Duw a dynion.
Dewis Presennol:
Luc 2: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.

: