Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 5

5
Galwad Dysgyblion
[Mat 4:18–22; Marc 1:16–20]
1A bu, a'r bobl yn gwasgu arno, ac#5:1 i wrando C D; ac i wrando א A B L Brnd. yn gwrando Gair Duw, yr oedd efe ei hun hefyd yn sefyll wrth Lyn Gennesaret#5:1 Gennesaret; hefyd Môr Galilea, Môr neu Lyn Tiberias; yn yr Hen Dest. Môr Chinnereth neu Chinneroth, oddiwrth debygolrwydd ei ffurf i delyn [Jos 12:3; 13:27]. Herod Antipas, er mwyn anrhydeddu yr Ymerawdwr Tiberius, a adeiladodd ddinas Tiberias, wedi ei galw ar ol ei enw, yn y rhanbarth oreu o Galilea, wrth Lyn Gennesaret. Y mae y Llyn yn 5 milldir o hyd, a'i lled yn 12. Gorwedda 500 o droedfeddi islaw Môr y Canoldir.: 2ac efe a welodd ddau gwch yn sefyll wrth y Llyn: ond y pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, oeddynt#5:2 oeddynt yn golchi B Tr. Al. WH. Diw.; a olchasant א C. yn golchi eu rhwydau. 3Ac efe a aeth i mewn i un o'r cychod, yr hwn oedd eiddo Simon, ac a ofynodd iddo i wthio ychydig oddiwrth y tir. Ac efe a eisteddodd ac a ddysgodd y torfeydd allan o'r cwch. 4A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia#5:4 a ddywedir wrth Simon, fel y perchenog, neu y meistr. i'r dyfnder, a gollyngwch#5:4 wrth eraill hefyd yn y cwch. Defnyddir y gair (chalaô) saith o weithiau yn y T. N. — bum gwaith gan Luc (Gwel Act 9:25; 27:17, 30; 2 Cor 11:33). chwi i lawr eich rhwydau am ddalfa. 5A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr#5:5 Epistatês, Llyth.: un yn sefyll yn ymyl, yna, arolygwr, blaenor, (feistriaid-gwaith Ex 1:11; pen‐swyddogion, y rhai oedd ar y gwaith 1 Br 5:16). Gelwir Crist wrth yr enw hwn o herwydd ei awdurdod. Defnyddir ef gan Luc yn unig; 8:24, 25; 9:33, 49; 17:13., ar ol ymboeni drwy y nos i gyd, ni ddaliasom ni ddim: ond ar dy air di, mi a ollyngaf i lawr y#5:5 y rhwydau א B D L; y rhwyd A D. rhwydau#5:5 Ni ychwanega Petr “am ddalfa.”. 6Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwy a amgauasant luaws mawr o bysgod, ac yr oedd eu#5:6 Fel adn 5. rhwydau hwynt yn dechreu rhwygo. 7A hwy a amneidiasant ar y rhai oeddynt gyfranogion â hwynt yn y cwch arall, i ddyfod i'w cynorthwyo#5:7 Llyth.: i gymmeryd gafael gyd a hwynt. hwynt: a hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddau gwch, fel ag yr oeddynt ar soddi. 8A Simon Petr, pan welodd, a syrthiodd wrth liniau yr Iesu, gan ddywedyd, Dos allan ymaith oddiwrthyf fi; canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd: 9canys syndod a'i meddianodd#5:9 Llyth.: a'i hamgylchynodd. ef a phawb oedd gyd âg ef, ar y ddalfa o bysgod a ddaliasent; 10a'r un modd hefyd Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyd‐gyfranogion#5:10 Defnyddir metochoi yn adn 7 a dynoda cael gyd a, h. y. bod yn gyfranog âg eraill: Koinônoi ddefnyddir yma, a dynoda gymdeithas agosach: bod yn gyd‐gyfranogion, a phob peth yn gyffredin iddynt. Dynoda Koinônia, cymdeithas o'r natur agosaf, megys cymundeb y saint a Christ (1 Cor 1:9); cymdeithas yr Yspryd Glân (2 Cor 13:14). â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan ti a fyddi yn dala#5:10 Llyth.: dala yn fyw (megys carcharorion rhyfel). Defnyddir y gair hefyd (2 Tim 2:26) am y Diafol. dynion. 11Ac wedi iddynt ddwyn y cychod at y tir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dylynasant ef.
Iachâu y Gwahan‐glwyfus
[Mat 8:2–4; Marc 1:40–45]
12A bu, tra yr oedd efe yn un o'r dinasoedd, wele hefyd ddyn yn llawn o wahan‐glwyf: ac efe a welodd yr Iesu, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhâu. 13Ac yntau a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio: bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan‐glwyf a aeth ymaith oddiwrtho. 14Ac efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb: ond, Ar ol myned ymaith, dangos dy hun i'r Offeiriad, a dwg dy offrwm am dy lanhâd, fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt#Lef 14:1–32. 15Ond y gair am dano ef a aeth fwy‐fwy ar led; a thyrfaoedd lawer a ddaethant ynghyd i'w glywed ef, ac i'w hiachâu#5:15 ganddo ef A; Gad. א B C D, &c. o'u gwendidau. 16Ond efe ei hun oedd yn ymneillduo i'r lleoedd anial, ac yn gweddïo.
Iachâu y Parlysig: grwgnach y Phariseaid
[Mat 9:2–8; Marc 3:1–12]
17A bu ar un o'r dyddiau, ac efe yn dysgu, yr oedd Phariseaid a Dysgawdwyr y Gyfraith hefyd yn eistedd: yr oeddynt wedi dyfod allan o bob pentref yn Galilea, a Judea, ac o Jerusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd ganddo#5:17 ganddo (gyd âg ef, iddo ef) א B L Al. Ti. WH.; (er eu hiachau) hwynt A C D Tr. er iachâu. 18Ac wele wŷr yn dwyn ar wely ddyn ag oedd wedi ei daro â'r parlys, ac yr oeddynt yn ceisio ei ddwyn ef i mewn, a'i osod o'i flaen ef. 19A phan na chawsant allan pa fodd y dygent ef i mewn o achos y dyrfa, hwy a aethant i fyny ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered gyd â'i wely bychan#5:19 Defnyddia Luc bedwar enw am wely (1) Klinê (adn. 18) y gair cyffredin, (2) Klinidion (bychanig o'r gair blaenorol); yn yr adnod hon, gwely bychan, glwth neu ddilledyn gwely, yr hwn a ellid ei gario yn rhwydd; (3) Klinarion (Act 5:15) yn golygu yr un peth â'r diweddaf; a (4) Krabbaton (Act 9:33) rhyw fatras garw (S. Pallet). drwy y pridd‐lechau#5:19 Llyth.: unrhyw beth a wneir o glai, yna, llechau clai, yna, nen y ty. Dywed y Rabbiniaid fod dau ddrws i dŷ, un o honynt oedd yn nen y ty. i'r canol gerbron yr Iesu. 20A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd#5:20 wrtho A X; Gad. B L Brnd., Y dyn, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti. 21A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn llefaru cableddau? Pwy a ddichon faddeu pechodau, ond Duw yn unig? 22A'r Iesu yn gwybod yn hollol eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu yn eich calonau? 23Pa un sydd hawddaf, ai dywedyd, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti, ai dywedyd, Cyfod a rhodia? 24Ond fel y gwypoch fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd wedi ei daro â'r parlys, Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod a chymmer i fyny dy wely bychan, a dos i'th dŷ. 25Ac yn y fan efe a gyfododd i fyny yn eu gŵydd hwynt: ac a gymmerodd i fyny yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw. 26A syndod#5:26 ekstasis [Llyth.: sefyll allan o; dyn allan o'i hun; allan o'i bwyll], yna cyffroad meddwl, gor‐londer neu gor‐dristwch, syndod. Thambos (adn. 9) syndod yn gyru yn fud; ekstasis, syndod yn arwain i ddatganiad o deimlad. a gymmerodd afael yn mhawb, a hwy a ogoneddasant Dduw, ac a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Ni a welsom bethau anhygoel#5:26 Paradoxa, Llyth.: pethau gwahanol i farn neu ddysgwyliad; felly, pethau rhyfedd, anghyffredin, anghredadwy, anhygoel. heddyw.
Galwad Lefi
[Mat 9:9–13; Marc 2:13–17]
27Ac ar ol y pethau hyn yr aeth efe allan, ac efe a ganfyddodd#5:27 A welodd drosto ei hun. Dreth‐gasglwr, a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y Dollfa#5:27 Neu, Swyddfa y Dreth.: ac efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. 28Ac efe a lwyr‐adawodd bob peth, ac a gyfododd, ac a'i canlynodd ef. 29A Lefi a wnaeth wledd roesawol fawr iddo yn ei dŷ, ac yr oedd tyrfa fawr o Dreth‐gasglwyr ac eraill, y rhai oeddynt yn eistedd wrth fwyd gyd â hwynt. 30A grwgnach wnaeth y#5:30 y Phariseaid a'u Hysgrifenyddion hwynt א B C D L; a'u Hysgrifenyddion hwynt a'r Phariseaid A Δ. Phariseaid a'u Hysgrifenyddion hwynt#5:30 Sef yr Iuddewon, neu yr Ysgrifenyddion a berthynent i Sect y Phariseaid [Act 22:30]. wrth ei Ddysgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyd â'r Treth‐gasglwyr â'r Pechaduriaid? 31A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg; ond i'r rhai cleifion. 32Nid wyf wedi dyfod i alw rhai cyfiawn ond pechaduriaid i edifeirwch.
Yr Hen a'r Newydd
[Mat 9:14–17; Marc 2:18–22]
33Ond hwy a ddywedasant wrtho, Y#5:33 Felly B L Al. Ti. WH. Diw.; Paham y mae Dysgyblion, &c., א C D, La. [Tr.] mae Dysgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur deisyfiadau; a'r un modd hefyd Dysgyblion y Phariseaid; ond y mae dy Ddysgyblion di yn bwyta ac yn yfed. 34A'r Iesu#5:34 Iesu א B C D L: Gad. A Δ. a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i Feibion yr Ystafell Briodas ymprydio, tra y mae y Priodas‐fab gyd â hwynt. 35Ond dyddiau a ddeuant; a phan gymmerir ymaith y Priodas‐fab oddiarnynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hyny. 36Ac efe hefyd a ddywedodd ddammeg wrthynt, Ni wna neb rwygo#5:36 rwygo oddiwrth א B D L Brnd.; Gad. A C. dernyn oddiwrth ddilledyn newydd, a'i osod ar hen ddilledyn: os amgen, efe a rwyga y newydd, ac hefyd ni wna y dernyn oddiwrth y newydd gytuno a'r hen. 37Ac nid oes neb yn tywallt gwin newydd i hen gostrelau lledr#5:37 Gwel Marc 2:22; os amgen, y gwin newydd a rwyga yr hen gostrelau lledr, ac efe a red allan, a'r costrelau lledr a ddinystrir. 38Eithr gwin newydd raid ei dywallt i gostrelau lledr newyddion#5:38 a'r ddau a gedwir yn ddyogel A C D La. Gad. א B L Al. Ti. WH. Diw. [o Matthew].. 39Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed yr hen, a#5:39 Yn y man A; Gad. B C L. chwenycha win newydd, canys y mae yn dywedyd, Hyfryd#5:39 Chrêstos, defnyddiol, gwasanaethgar, rhinweddol. (Cyfeithir Chrêstotês, tiriondeb, 2 Cor 6:6 cymwynasgarwch Gal 5:22: daioni, Titus 3:4; Rhuf 2:4). Yma dynoda chrêstos, mwyn, hyfryd (mewn cyferbyniad i chwerw, sur), felly Mat 11:30 “Fy iau sydd hyfryd.”#5:39 Hyfryd neu Da א B Brnd.: Hyfrydach neu Gwell A C La. yw yr hen.

Dewis Presennol:

Luc 5: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda