Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 11

11
Y Farchogaeth frenhinol i Jerusalem
[Mat 21:1–11; Luc 19:29–44; Ioan 12:12–19]
1A phan y maent yn agoshâu i Jerusalem, i Bethphage#11:1 Bethphage, ty ffigyswydd., a Bethania#11:1 Bethania, ty aeron y palmwydd., at Fynydd yr Olew‐wydd, y mae efe yn danfon dau o'i Ddysgyblion, 2ac yn dywedyd wrthynt, Ewch ymaith i'r pentref sydd gyferbyn a chwi: ac yn ebrwydd pan y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn hyd#11:2 hyd yn hyn B L Δ Tr. Ti. Diw. erioed A (gwel Luc); gad. D Al. yn hyn nid oes neb wedi eistedd: gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ef. 3Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu; ac yn ebrwydd y mae efe yn#11:3 yn ei ddanfon. Y prif‐lawysgrifau a Brnd. ei ddanfon yma drachefn#11:3 drachefn א B C D L Δ Brnd. Gad. A X.. 4A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant ebol#11:4 ebol B A D L Tr. Al. WH. yr ebol א C Δ Ti. Diw. wedi ei rwymo wrth y drws oddiallan, ar y brif‐heol#11:4 amphodon (ampki, o amgylch, hodon, ffordd); llyth.: ffordd amdroiog. Yr oedd heolydd yn y Dwyrain fel rheol, yn ŵyrog: cyferbynier Heol Uniawn Damascus (Act 9:11)., ac y maent yn ei ollwng ef yn rhydd. 5A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd? 6A hwy a ddywedasant wrthynt fel y#11:6 y dywedodd א B C L Δ Brnd.; gorchymynodd A X. dywedodd yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt. 7Ac y maent yn#11:7 yn dwyn B L Δ Brnd.; a arweiniasant A D. dwyn yr ebol at yr Iesu, ac yn bwrw eu gwisgoedd uchaf arno; ac efe a eisteddodd arno. 8A llawer a daenasant eu gwisgoedd uchaf ar#11:8 Llyth.: i'r, “Hwy a daflasant eu gwisgoedd i'r ffordd, ac a'u taenasant yno.” y ffordd; ac eraill haenau o'r brigau#11:8 Stibas, haen o ddail, neu o ganghenau yn llawn dail, neu o wellt neu gorsenau, fel ag i ffurfio gwely neu ffordd garpedog. Defnyddia Mat klados (o klaô, tori), ysbrigyn tyner, yna canghen. Ioan a ddefnyddia baia, cangau o'r palmwydd., y rhai a dorasant o'r meusydd#11:8 Felly א B C L Δ Brnd.; coed (neu gwydd) A D X.#11:8 Y rhai a daenasant ar y ffordd A D X. Gad. א B C L Δ Brnd.. 9A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant,
Hosanna!
Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd!
10Bendigedig yw Teyrnas ein#11:10 ein Tâd Dafydd א B C L Δ Brnd.: yn enw Arglwydd ein Tâd Dafydd A X. Tâd Dafydd, yr hon sydd yn dyfod!
Hosanna yn y Goruchafion.#Salm 118:25, 26.
11Ac efe a aeth i mewn i Jerusalem, i'r Deml#11:11 Hieron, yn cynnwys yr holl adeiladau, felly, i Gynteddoedd y Deml., ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i amgylch, a'r awr weithian yn ddiweddar, efe a aeth allan i Bethania gyda'r Deuddeg.
Melldithio y ffigysbren ddiffrwyth
[Mat 21:18, 19]
12A thranoeth, wedi iddynt fyned allan o Bethania, daeth arno chwant bwyd. 13Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren âg arno ddail, efe a aeth, os caffai, o ddygwydd, ryw gymmaint arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond dail: canys nid oedd dymhor ffigys. 14Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth o honot byth mwy. A'i Ddysgyblion oeddynt yn ei glywed ef.
Glanhâu y Deml
[Mat 21:12, 13, 17; Luc 19:45, 46]
15Ac y maent yn dyfod i Jerusalem; ac wedi myned i'r Deml, efe a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai#11:15 rhai oedd yn prynu A B C L Brnd.; ac yn prynu D Δ X. oedd yn prynu; ac efe a ddymchwelodd fyrddau y cyfnewidwyr arian#11:15 Kollubistês, arianydd, bancwr (o kollubos, (1) darn bychan o arian, (2) pris y cyfnewidiad)., a chadeiriau y gwerthwyr colomenod: 16ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy y Deml. 17Ac efe a'u dysgodd, ac a ddywedodd wrthynt, Onid yw yn ysgrifenedig,
Gelwir fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi i'r holl genedloedd#Es 56:7; ond yr ydych chwi wedi ei wneuthur ef yn
Ogof Yspeilwyr#Jer 7:11.
18A'r Arch‐offeiriaid#11:18 Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion A B C D L Brnd., a'r Ysgrifenyddion a'r Arch‐offeiriaid X. a'r Ysgrifenyddion a glywsant, ac a geisiasant pa fodd y dyfethent ef; canys yr oeddynt yn ei ofni ef, oblegyd yr holl dyrfa a darawyd â syndod at ei ddysgeidiaeth ef. 19A pha bryd bynag yr elai hi yn hwyr#11:19 Hyny yw, nid unrhyw hwyr neillduol, ond cyhyd ag yr arosent yn Jerusalem., hwy#11:19 hwy a aethant allan A B Tr. WH. efe a aeth allan C D Al. Diw. a aethant allan o'r Ddinas.
Gallu ffydd a gweddi
[Mat 21:20–22]
20Ac wrth#11:20 Felly א B C D L Δ Brnd.; a'r bore wrth fyned heibio A X. fyned heibio yn fore, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd. 21A Phetr, wedi adgofio, a ddywed wrtho, Rabbi, wele, y ffigysbren a felldithiaist wedi crino. 22A'r Iesu, gan ateb, a ddywed wrthynt, Bydded genych ffydd yn Nuw#11:22 Llyth.: ffydd Duw, h. y. ffydd tu ag at Dduw, neu yn Nuw.. 23Canys yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cyfoder di, a bwrier di i'r môr, ac nid amheuo yn ei galon, ond a gredo fod yr hyn a ddywed yn dyfod i ben, efe a fydd iddo#11:23 pa beth bynag a ddywedo A X. Gad. A B C D L Δ Brnd.. 24Am hyny meddaf i chwi, pa bethau bynag oll#11:24 Llyth.: pob peth, pa bethau bynag. y gweddiwch#11:24 y gweddiwch am danynt ac a geisiwch א B C D L Δ Brnd.; a geisiwch wrth weddio A X. am danynt, ac a geisiwch, credwch y derbyniasoch#11:24 Yr oedd y Dysgyblion i fod mor sicr o lwyddo, a phe buasent wedi eu derbyn yn barod: “A bydd cyn galw o honynt, i mi ateb,” Es 65:24.#11:24 derbyniasoch א B C L Brnd.; derbyniwch A. hwynt, a byddant i chwi. 25A phan yr ydych yn sefyll i weddio, maddeuwch, os oes genych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd i chwithau eich camweddau. 26[Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tâd yr hwn sydd yn y Nefoedd ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau]#11:26 Felly A C D, amryw gyfieithiadau boreuol, La. Al. Mey. Diw.; gad. א B L Δ Ti. Tr. WH. [Dywedir ei bod o Mat 6:15, ond y mae y ddwy yn gwahaniaethu i raddau]..
Natur ei awdurdod
[Mat 21:23–27; Luc 20:1–8]
27Ac y maent yn dyfod drachefn i Jerusalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y Deml, y mae yr Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenydion, a'r Henuriaid yn dyfod ato, 28ac yn dywedyd wrtho, Trwy ba fath awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? 29A phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau i chwithau un gofyniad#11:29 Llyth.: gair neu fater., ac atebwch fi; a minau a ddywedaf i chwi trwy#11:29 Llyth.: yn. ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn: 30Ai oedd Bedydd Ioan o'r Nef, ai o ddynion? Atebwch fi. 31Ac yr oeddynt yn ymresymu#11:31 Neu, cyd‐ymgynghori. yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na#11:31 gan hyny B D.; gad. A C L Δ X Brnd. chredasoch iddo? 32Ond a#11:32 Ond a ddywedwn A B C Brnd.; ond os dywedwn D. ddywedwn, O ddynion? — hwy a ofnent y bobl; canys pawb a#11:32 a gyfrifent Ioan mewn gwirionedd, &c., A; a gyfrifent Ioan (ei fod yn broffwyd) mewn gwirionedd א B C L Brnd. gyfrifent Ioan mewn gwirionedd ei fod yn broffwyd. 33A hwy, gan ateb yr Iesu a ddywedant, Ni wyddom ni. A'r Iesu a#11:33 a ddywed א B C L Δ; gan ateb a ddywed A D. ddywed wrthynt hwythau, Ni ddywedaf finau i chwi ychwaith trwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Dewis Presennol:

Marc 11: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda