Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 19:23-37

Ioan 19:23-37 DAFIS

Pan we'r sowldwrs wedi croeshoelo Iesu, ethon nhwy â'i ddillad a'u rhannu nhwy in bedwar shâr, shâr i bob sowldwr. Ethon nhw â'r tiwnic 'fyd; ond wedd i heb sêm, in un pishyn o'r top i'r gwaelod. So wedon-nhwy wrth i gily, “Newn ni ddim o'i rhico hi, gadwch inni dowlu deis i weld pwy geith hi.” Digwyddodd hyn er mwyn neud i'r Isgrithur ddwâd in wir, “Rhannon nhwy in ddillad i rhynt i gilyd a towlu deis am in bilyn.” A 'na beth nâth i sowldwrs. Nawr, we mam Iesu, whâr i fam, Mair gwraig Clopas, a mair o Magdala in sefyll ar bwys i grwes. Gwelo Iesu i fam a'r disgibl wedd e'n i garu in sefyll ar i phwys hi, a gwedodd e wrthi, “Mam, drichwch, 'co'ch mab chi.” Wedyn wedodd e wrth i disgibl, “Dricha, 'co di fam di.” O'r amser 'na mlân cwrmodd i disgibil hi miwn i'w getre.” We Iesu in gwbod bo popeth wedi câl i neud nawr. I neud i'r Isgrithiur ddwâd in wir, gwedodd e, “Ma siched arna i.” We cwpan 'da gwin sur indi wedi câl i roi fan 'ny. Rhoion nhwy spwnj in llawn gwin sur ar ben coesen hissop a'i roi lan i'w ben e. Cwmrodd e'r gwin sur a gweud, “Ma popeth wedi câl i neud.” Wedyn nâth ei bligu'i ben a rhoi'r isbryd lan. I dwarnod cyn dy' Sabbath wedd i. So holo'r Iddewon Pilat dorri coese'r dinion we wedi câl u croeshoelo, a bo'r cyrff yn câl u cwmrid bant. We hyn fel 'na bo'r cyrff in aros ar i croese ar ddy Sabbath, a we'r Sabbath 'ny in ddwarnod mowr. So dâth i sowldwrs a torri coese'r dyn cinta a'r llall we wedi câl i groeshoelo 'dag e. Wedyn ddethon nhwy ato fe, a pan welon nhwy bo fe'n farw in barod, nethon nhwy ddim torri i goese, ond fe nâth un o'r sowldiwrs hwpo spiyr miwn i'w ochor e, a ar unweth dâth gwâd a dŵr mas. Co beth wedo rhiwun welodd i peth in digwydd, câs hyn i weud fel bo chi 'fyd in creud, a ma beth mae e'n weud in wir. Ma 'na un sy'n gwbod i fod e'n gweud i gwir. Digwiddodd i pethe 'ma fel bo'r Isgrithur in dod in wir, “Ceith ddim un o'i esgyrn e u torri.” Shwrne 'to, mae'r Isgrithur in gweud, “Biddan nhwy'n drych ar ir un nethon nhwy i wanu.”