Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 12:9-50

Mathew 12:9-50 DAFIS

Gadodd e fan 'ny a mynd miwn i’w sinagog nhwy. We dyn fan 'ny â'i law e wedi mynd in ddiffrwyth, a gofinon nhwy i Iesu, er mwyn i ddala fe, “Ody 'ddi'n iawn gwella ar ddy’ Sabbath?” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Gwedwch chi bo dafad 'da un o chi sy'n cwmpo miwn i dwll ddy’ Sabbath. Senoch chi'n mynd i afel indi a'i thinnu 'ddi mas. Faint mwy o werth yw dyn na dafad! So, ma 'ddi iawn i neud daioni ddy’ Sabbath.” Wedyn wedodd e wrth i dyn, “Mitsyna di law mas,” Mistinodd hwnnw i law mas, a fe gâth hi i gwella a'n neud in iawn fel i llall. Âth i Ffariseied mas a clebran 'da i gily in i erbyn e i weld shwt allen nhwy i ddistrywo fe. We Iesu in gwbod 'ny a gadodd e'r lle 'ny. Dâth lot o bobl ar i ôl e, a welodd e nhwy i gyd. Gwedodd e wrthyn nwy'n sharp i beido gweud wrth neb arall beth we wedi digwydd. We hyn fel bo geire'r proffwid Eseia in dod in wir, ‘Dirchwch, in Was i a ddewishes i, in Un annwil i, ma'n ened i'n blêsd 'dag e. Rhoia i'n Isbryd arno fe, A fe neith e gihoeddi barn i'r cenhedloedd; neith e ddim cwpo mas na gweiddi; neith neb gliwed i laish e in i stridodd. Neith e ddim torri brwynen wedi'i gwasgu, Nieth e ddim diffod llin in mwgu, nes i fod e'n dwâd â'r farn 'ny i fuddugolieth. A in i enw e bydd i cenhedlodd in rhoi u gobeth.” Dethon nhwy â dyn dall we ddim in galler sharad ato fe, a we cithrel indo fe, a fe wellodd e'r dyn nes bo fe'n gweld a'n galler sharad shwrne 'to. We'r crowde wedi sinnu a gwedon nhwy, “Alle'r dyn ma fod in Grwt i Dafydd?” Pan gliwo'r Ffariseied 'ny, gwedon nhwy, “Seno'r dyn 'ma in iwso neb llai na Beelsebwl i unan, pen i cithreilied, i dowlu mas cithreilied.” Ond wedd e'n gwbod beth wen nhwy'n meddwl a gwedodd e wrthyn nhwy, “Ma bob teyrnas sy wedi'i rhannu in i herbyn i hunan in câl i distrywo, a sdim un dinas na tŷ sy wedi'i rannu in erbyn i unan in mynd i sefyll. Os Satan sy'n hala mas Satan, mae e wedi'i rannu in erbyn i unan; shwt wedyn 'te neith i deyrnas e sefyll? A os dw i'n iwso Beelesbwl i dowlu mas cithreiled, pwy ma’ch pobol chi in i iwso? Gewn nhwy fod in farnwyr in hyn i gyd. Os os dw i'n iswo Isbryd Duw i dowlu mas cithreiled, wedyn ma Teyrnas Dduw wedi dod atoch chi. Shwt gall unrhiw un fynd miwn i dŷ dyn cryf a mynd â'i bethe fe, os na fyddan nhwy'n clwmu'r dyn crif lan in i lle cinta? Wedyn gallan nhwy ddwyn o'i dŷ e. Os nadi dyn 'da fi, mae e in in erbyn i, a os nadi dyn in in helpu i i gasglu'n ddefed mae e'n u whalu nhwy. Achos hyn dw i'n gweu 'thoch chi, ceith dinion faddeuant am bob pechod a chablu, ond am gablu in erbyn ir Isbryd Glân. Bydd pwy binnag sy'n gweud gair in erbyn Crwt i Dyn in câl i fadde; ond bydd pwy binnag sy'n sharad in erbyn ir Isbryd Glân ddim in câl i fadde in i'r ôs 'ma neu'r ôs i ddwâd. “Os yw llwyn in dda bydd i ffrwyth e'n dda; os yw llwyn in bwdwr bydd i ffrwyth e'n bwdwr. Ŷch chi'n nabod llwyn wrth i ffrwyth. Chi nadrodd, shwt gallwch chi, a chi'n ddrwg, weud pethe da? Achos ma'r hyn ma'r pen in i weud in dwâd mas o'r meddwl. Ma dyn da in dwâd mas â pethe da o'i drisorfa, a ma dyn drwg in dwâd mas a pethe drwg o'i drisorfa. Dw i'n gweu 'thoch chi, ar ddwarnod barn bydd dinion in gorffod ateb am bob gair wast man nhwy'n gweud. Achos wrth ich geire gewch chi ddwâd in rhydd, a wrth ich geire gewch chi’ch condemo ‘fyd.” Gwedo rhei o'r rhei we'n disgu'r Gifreth a rhei o'r Ffariseied wrtho fe, “Mishtir, ŷn ni oyn câl sein 'da ti.” Atebodd e, “Mae cenhedleth ddrwg a anffiddlon in whilo sein, a geith i ddim sein ond sein i proffwd Jona. Achos fel we Jona in bola'r pisgodyn mowr am dri dwarnod a tair nosweth, bydd Crwt i Dyn in calon i ddeiar am dri dwarnod a tair nosweth. Bydd dinion Ninefe in sefyl amser i farn gida'r genhedleth 'ma a'n i chondemo hi, achos pan nâth Jona bregethu iddyn nhwy fe ddifano nhwy; ond ma rhwbeth mwy na Jona fan 'yn. Codith brenines i de amser i farn gida'r genehdlaeth hon a'i chondemo hi, achos dâth hi o bendraw'r byd i gliwed doethineb Solmon; ond ma rhwbeth mwy na doethineb Solomon fan 'yn. “Pan ma isbryd bowlyd in dwâd mas o ddyn, mae e'n mynd trw'r llefydd heb ddŵr in whilio am le i gâl whe ond seno'n i ffindio fe. Wedyn mae'n gweud, ‘Â i nôl i'r catre des i ono fe.’ Mae e'n dwâd a'n ffindo'r lle heb neb in byw 'na, wedi'i galu a'n deidi. Wedyn mae e'n mynd a'n dwâd â saith isbryd arall sy'n fwy drwg nag e i unan, a man nhwy'n dwâd a'n setlo fan 'ny; a ma'r dyn druan ar i diwedd in wâth na wedd e ar i dachre. Fel 'ny bydd i 'da'r genhedlaeth 'ma ‘fyd.” Pan wedd e wrthi'n sharad gida'r crowde, we'i fam a'i frodyr in sefyll tu fas ishe câl gair 'dag e. Gwedo rhiwun wrtho, “Dricha, ma di fam a di frodyr in sefyll tu fas, a man nhwy am sharad gida ti.” I ateb ei'r dyn nâth weu 'tho fe we, “Pwy yw'n fam i, a pwy yw'n frodyr i?” A tima fe'n mistyn i law mas at i ddisgiblion a gweud, “Co'n fam i a'n frodyr i. Achos ma unrhiw un sy'n neud beth ma'n Dad in i nefodd moyn iddyn nhwy neud in frawd, in whâr, in fam i fi.”