Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 15

15
1-7Wedyn dâth i rhei we'n disgu'r Gifreth o Jerwsalem a at Iesu, a gweud, “Pam ma di ddisgiblion di in mynd in erbyn traddodiad ir heuried? Achos senyn nhwy'n golchi'u dwylo pan man nhwy'n bita?” Atebodd e nwhy, “Pam ŷch chi er mwyn dilyn traddodiad in mynd in erbyn gorchimyn Duw? Achos ma Duw wedi gweud, ‘Parcha di dad a di fam’, a ‘Rhaid i'r un sy'n sharad in gas am i dad a'i fam farw.’ Ond ŷch chi'n gweud, ‘Os ma rhiwun in gweud wrth i dad neu i fam, “‘Dw i wedi rhoi in offrwm i Dduw ir arian i gyd gallen i fod wedi hala in drych ar ich ôl chi”, wedyn sdim rhaid iddo barchu'i dad na'i fam.’ So ŷch chi ar gownt ich traddodiad in folon neud beth Duw wedi'i weud in ddim. Y rhagrithwyr â chi, wedodd Eseia in iawn amdanoch chi a’ch short,
8-9‘Ma'r dinion 'ma in parchu fi 'da'u gwefuse,
ond mae'u calonne nhwy'n bell bant wrtha i.
Wast o amser yw i iddyn nhwy in addoli i,
Achos man nhwy'n disgu geirie dinion fel gwirionedd!’”
10-20Galwodd e'r crowd ato fe a gweu 'thyn nhwy, “Grondwch, a diallwch. Ddim beth sy'n mynd miwn i ddyn sy'n i neud e'n fowlyd; ond beth sy'n dod mas o'i ben sy'n neud dyn in fowlyd.” Dâth i disgiblion ato a gweu 'tho fe, “Wet ti'n gwbod bo'r Ffariseied in sinnu at beth wedes di jst nawr?” Atebodd e, “Geith pob plansyn nâth in Dad i ddim mo'u pannu nhwy u tinnu lan. Gadwch nhwy fod. Dinion dall in arwen dinion dal yw nhwy. Os neith un dyn dall arwen un arall, neuth i ddoun gwmpo miwn i dwll.” Atebo Pedr e, “Egspleina'r ddameg i ni.” Gwedodd e, “Senoch chi ddim in diall o hyd, ŷch chi? Senoch chi'n diall bod beth binnag sy'n mynd miwn i'r pen in mynd i'r stumog a mas in i tŷ bach? Ond ma beth sy'n dwâd mas o'r pen in dwâd o'r meddwl, a ma hinny'n neud dyn in fowlyd. Achos mas o'r meddwl ma meddilie drwg in dwâd, lladd, godineb, mocheidd-dra, dwyn, gweud celwy am riwun, gweud pethe cas am riwun. Co'r pethe sy'n neud dyn in fowlyd, ond seno bita bwyd 'da dwylo heb u golchi in neud dyn in fowlyd.”
21-28Gado Iesu'r lle 'ny a mynd bant i ardal Tyrus a Sidon. A tima menwy Ganaaneiedd, we'n dwâd o'r ardal 'ny, in gweiddi mas, “Mishtir, Crwt Dafydd, dangos dreni wrtha i. Ma'n rhoces i'n diodde'n ofnadw 'da cithrel.” Ond nâth e ddim i hateb hi. Dâth i ddisgiblion ato a gofyn iddo fe i hala hi bant, a gweud, “Ma i'n gweiddi mas ar in hole ni.” Atebodd e, “Ces i'n hala dim ond at ddefed tŷ Isrel we ar goll.” Dâth hi a cwmpo ar i'r llawr o'i flân e, a gweud, “Mishtir, helpa fi.” Atebodd e, “Sen i'n beth iawn i fynd â bwyd i plant a'i dowlu fe i'r cŵn.” Gwedodd hi, “Ma hinny'n wir, Mishir; ond ma hyd 'nôd i cŵn in câl bita’ briwshon sy'n cwmpo o ford u mhishtir.” Wedyn wedo Iesu wrth i fenyw, “O 'na ffydd fowr sy 'da ti! Geith beth wit ti moyn i neud.” A gâs i rhoces hi i gwella o'r funud 'na.
29-39Gado Iesu'r lle 'ny a mynd ar hyd Llyn Galilea; a âth e lan i'r mini a ishte fan 'ny. Dâth crowde mowr ato fe gida dinion we'n gloff, wedi câl dolu, dall, ffeilu sharad, a'u rhoi nhwy lawr wrth i drâd e, a nâth e neud nhwy'n well. Gâs i crowd sindod pan welon nhwy'r rhei we'n ffeilu sharad in sharad, i rhei we wedi câl dolur in iawn, i rhei cloff in cered, i rhei dall in gweld. A nethon nhwy roi gogoniant i Dduw Isrel.
Galwo Iesu i ddisgiblion ato fe a gweud, “Dw i'n teimlo dreni dros i crows, achos man nhwy wedi bod 'da fi nawr am dri dwarnod heb gâl ddim byd i fita. Sena i moynd u hala nhwy o 'ma nawr. Gallen nhwy ddigwydd pango ar ir hewl.” Gwedo'r disgiblion wrtho, “Ŷn ni mas miwn lle unig iawn fan 'yn. Lle gallwn ni ffindo digon o dorthe i growd mor fowr?” Gwedo Iesu, “Sawl torth sy 'da chi?” Gwedon nhwy, “Saith, a cwpwl o bisgod.” Rhoiodd e ordors i'r crowd ishte lawr ar i ddear. Cwmrodd e'r saith torth a'r pisgod. Wedyn diolchodd e i Dduw, u torri nhwy a rhoi nwy i’w ddisgiblion, a rhoiodd i disgiblion nhwy i'r crowde. Nethon nhwy fita hys bo nhwy'n llawn dop; a nethon nhwy gasglu beth we dros ben o'r cwlffe, llond saith basgeded. We rhyw beder mil in bita, heb gownto'r menwod a'r plant. Halodd e'r crowde bant, mynd miwn i gwch a dwâd i wlad Magadan.

Dewis Presennol:

Mathew 15: DAFIS

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda