Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 18:1-35

Mathew 18:1-35 DAFIS

A'r amser 'ny dâth i disgiblion at Iesu a gweud, “Pwy yw'r mwya’ in Teyrnas Nef, te?” Galwodd e blentyn ato, a neud iddo sefyll in i canol, a gweud, “Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, os na newch chi droi nôl i fod fel palnt, ewch chi ddim miwn i Deyrnas Nefodd. Ma unrhyw un sy'n derbyn plentyn fel hyn in in enw i in in dderbyn i. “Os neith urnhyw un un o'r rhei bach 'ma i gwmpo bant, bise'n wedd iddo fe os bise mân melin fowr in câl i chlwmu rownd i wddwg e a fe'n câl i dowlu i'r môr mowr i foddi. Druans o'r byd, bod pethe i gâl sy'n tinnu dinion i gwmpo bant! Rhaid i bethe fel hyn ddigwydd, ond druna o'r dyn ma'r pethe 'ma in digwydd drwyddo fe! “Os yw di law di neu di drôd di'n hala ti i gwmpo bant, tor nhwy bant a'u towlu nhwy'n bell. Mae'n well iti fynd miwn wedi câl lôs i Deyrnas Dduw na yw i i gâl ich tolwu 'da dwy law neu ddwy drôd miwn i'r tân sy'n llosgi byth. A os yw di ligad di'n hala ti i gwmpo bant, cwmra fe mas a'i dowlu fe'n bell. Mae'n well iti fynd miwn i fowid 'da un lligad, na câl di dowlu â dou ligad miw i dân uffern. “Newch in shŵr bo chi ddim in drych lawr ar un o'r rhei bach 'ma, achos dw i'n gweu 'thoch chi, mae'u hangilion nhwy in gweld wmed in Dad in i nefodd o hyd. Achod dâth Crwt i Dyn i safio beth we wedi câl i golli. “Beth ŷch chi'n meddwl? Os wes cant o ddefed 'da dyn a ma un onyn nhwy in mynd ar goll, senon fe'n mynd i adel y naw-deg-naw ar i mini a mynd i wilio am ir un âth ar goll? A os feindith e'r ddafa, dw i'n gweud i gwir wrthohc chi, bydd e'n fwy llawen amdani hi nag am i naw-deg-naw sy ddim wedi mynd ar goll. Ond wedyn weth, seno’ch Tad chi in i nefodd am weld un o'r rhei bach ma'n mynd i ddistryw. “Os ma di frawd di'n pechu in di erbyn di, cer a rhoi stwr iddo in bell o bobun arall. Os neith e rondo arnot ti, wit ti wedi ennill di frawd. Os na neith e rondo, cer a un eu ddou arall 'da ti, fel bo achos in galler câl i setlo mas o ben dou neu dri tyst. Os nadi e'n cwmrid dim sylw o rheiny, gwe 'th ir eglws; a os nadi e'n cwmrid dim silw o'r eglwys, newch 'dag e fel byse fe'n bagan neu'n un sy'n aglu trethi. “Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, beth binnag newch chi stopo ar i ddeiar geith i stopo in i nefodd, a beth binnag ichi gadel i ddigwydd ar i ddeiar geith e i adel i ddigwydd in i nefodd. Dw i'n gwu 'thoch chi shwrne to, os wes dou ono chi'n cituno ar i ddeiar o bitu rhwbeth ŷch chi'n gofyn, geith e i neud ichi 'da'n Dad sy in i nefodd; achos ble ma dou neu dri ono chi in cwrdd in in enw i, dw i fan 'ny in ich canol chi.” Wedyn dâth Pedr a gweud wrtho, “Mishtir, sawl gwaith wdw i fod fadde un frawd pan fydd e'n pechu in in erbyn i? Lan i saith o weithe?” Gwedo Iesu wrtho fe, “Sena i'n gweud wrtho ti, Saith gwaith, ond, Saith-deg-saith gwaith. “So, ma Teyrnas Nefodd in debyg i ryw frenin we ishe setlo'r cwonts 'da'i geithweishon. Pan ddachreuodd e neud 'ny, dethon nhwy â dyn we arno fe lot fowr fowr o arian ato fe. Achos we ddim ffordd 'dag e dalu, rhoiodd i fisthir ordors bod i dyn, i wraig, a'i blant, a bopeth we 'dag e, i gâl u gwerthu er mwyn câl digon o arian i dlu. So cwpodd i ceithwas o flân i brenin ar i llawr a gweud, “Dangos aminedd, a fe dala i bopeth nôl i ti.” Teimodd mishtir i ceithwas dreni drosto a gadel iddo fynd in rhydd, a anghofio am ir ariawn wedd arno fe. Ond âth i ceithwas 'ny mas a ffindo ceithwas arall we arno fe tamed bach o arian iddo fe. Cidjodd e indo, a gafel indo wrth i wddwg a gweud, “Tala beth sy arno ti i fi.” So towlodd i ceithwas 'ny i unan lawr o'i fân e a begianodd e arno. “Dangos aminedd,” medde fe, “a fe dala i ti.” Ond we 'na ddim in ddigon da, a fe âth e a'u dowlu e miwn i’ shâl nes bo fe'n talu beth wedd arno fe. We'r caethweishon erill in becso'n fowr pan welon nhwy beth nâth e, a dethon nhwy a egsbleino popeth we wedi digwydd i’w mishtir nhwy. Wedyn nâth i misthir alw fe ato fe, “O geithwas drwg, nes i fadde iti'r ddiled we 'da ti pan nes di fegian 'da fi. Senot ti'n meddwl ddilet ti fod wedi câl dreni ar di gyd geithwas, fel ges i drenu drosto to?” We'i fishtir in grac, a ‘co fe'n i roi e in dwylo'r poenidwyr hyd nes bide fe'n talu pob dime goch we arno fe. Fel 'na bydd in Dad i in i nefodd in i neud i chi, os nad ŷch chi'n madde ich gilyd o’ch calon.”