1 Cronicl 12
12
Dilynwyr Cynnar Dafydd, o Lwyth Benjamin
1Dyma'r rhai a ddaeth i Siclag at Ddafydd tra oedd yn ymguddio rhag Saul fab Cis. Yr oeddent yn wŷr cedyrn, ac yn ddefnyddiol mewn brwydr 2am eu bod yn cario bwâu ac yn gallu taflu cerrig a saethu â'r bwa â'u llaw dde a'u llaw chwith. Benjaminiaid oeddent, o dylwyth Saul. 3Ahieser a Joas meibion Semaa o Gibea oedd yr arweinwyr; Jesiwl a Phelet meibion Asmafeth; Beracha, a Jehu o Anathoth; 4Ismaia o Gibeon, y grymusaf o'r Deg ar Hugain ac yn bennaeth arnynt; Jeremeia, Jehasiel, Johanan a Josabad o Gedera, 5Elusai, Jerimoth, Bealeia, Semareia, Seffatia yr Haruffiad, 6Elcana, Jeseia, Asareel, Joeser a Jasobeam y Corahiaid, 7Joela a Sebadeia, meibion Jehoram o Gedor.
Dilynwyr Dafydd o Lwyth Gad
8Aeth rhai o'r Gadiaid at Ddafydd i'r gaer yn yr anialwch. Gwŷr nerthol oeddent, milwyr profiadol mewn brwydr, yn fedrus â tharian a gwaywffon, yn edrych fel llewod ac mor gyflym â gafrewigod ar y mynyddoedd. 9Y cyntaf oedd Eser, yr ail Obadeia, y trydydd Eliab, 10y pedwerydd Mismanna, y pumed Jeremeia, 11y chweched Attai, y seithfed Eliel, 12yr wythfed Johanan, y nawfed Elsabad, 13y degfed Jeremeia a'r unfed ar ddeg Machbanai. 14Gadiaid oedd y rhain, a phenaethiaid y fyddin; yr oedd cant o ddynion dan y lleiaf ohonynt a mil dan y pwysicaf. 15Dyma'r rhai a groesodd yr Iorddonen yn y mis cyntaf, pan oedd yr afon wedi gorlifo'i glannau, gan yrru ar ffo bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd i'r dwyrain a'r gorllewin.
Dilynwyr o Benjamin a Jwda
16Daeth rhai o wŷr Benjamin a Jwda i'r gaer at Ddafydd, 17ac aeth yntau allan atynt a dweud, “Os daethoch ataf mewn heddwch i'm cynorthwyo, yr wyf yn barod i ymuno â chwi. Ond os daethoch i'm bradychu i'm gelynion, a minnau'n ddieuog, bydded i Dduw ein tadau sylwi a chosbi.” 18Yna meddiannwyd Amasai, pennaeth y Deg ar Hugain, gan yr ysbryd, ac meddai:
“Yr ydym ni gyda thi, Ddafydd!
Yr ydym o'th blaid, fab Jesse!
Llwydd, llwydd fo i ti,
a llwydd i'th gynorthwywr!
Oherwydd dy Dduw yw dy gymorth.”
Felly croesawodd Dafydd hwy a'u gwneud yn benaethiaid ar finteioedd.
Dilynwyr o Manasse
19Ciliodd rhai o wŷr Manasse at Ddafydd pan ddaeth ef gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond ni chynorthwyodd ef y Philistiaid am i'w tywysogion, wedi ymgynghori â'i gilydd, ei yrru i ffwrdd gan ddweud, “Pe bai'n dychwelyd at ei feistr Saul fe gaem ein lladd.” 20Y rhain oedd y gwŷr o Manasse a ddaeth ato pan oedd ar y ffordd i Siclag: Adna, Josabad, Jediael, Michael, Josabad, Elihu a Silthai, penaethiaid miloedd ym Manasse. 21Buont hwy o gymorth i Ddafydd yn erbyn yr ysbeilwyr am eu bod i gyd yn wŷr nerthol ac yn gapteiniaid yn y fyddin. 22Beunydd yr oedd rhai yn dod i gynorthwyo Dafydd, nes bod y gwersyll wedi tyfu'n un mawr iawn.
Rhestr Lluoedd Dafydd
23Dyma nifer penaethiaid y lluoedd arfog a ddaeth at Ddafydd yn Hebron i roi brenhiniaeth Saul iddo, yn ôl gair yr ARGLWYDD: 24o feibion Jwda a gludai darian a gwaywffon, chwe mil wyth gant yn y lluoedd arfog; 25o feibion Simeon, dynion nerthol i ryfel, saith mil un cant; 26o feibion Lefi, pedair mil chwe chant, 27yn ogystal â Jehoiada arweinydd yr Aaroniaid gyda thair mil saith gant, 28a Sadoc, llanc dewr, gyda dau ar hugain o gapteiniaid o dŷ ei dad; 29o feibion Benjamin, brodyr Saul, tair mil a oedd hyd yr amser hwnnw yng ngwasanaeth tŷ Saul; 30o feibion Effraim, ugain mil wyth gant o wŷr nerthol, dynion oedd yn enwog yn eu teuluoedd; 31o hanner llwyth Manasse, deunaw mil o wŷr a etholwyd i ddod a gwneud Dafydd yn frenin; 32o feibion Issachar, y rhai oedd yn deall arwyddion yr amseroedd i wybod beth ddylai Israel ei wneud, dau gant o benaethiaid a oedd yn rheoli eu holl frodyr; 33o Sabulon, hanner can mil o ddynion arfog, profiadol mewn rhyfel a pharod eu cymorth; 34o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwy, yn cario tarian a gwaywffon, dwy fil ar bymtheg ar hugain; 35o'r Daniaid, wyth mil ar hugain chwe chant yn barod i ryfel; 36o Aser, deugain mil o filwyr yn barod i fynd allan i ryfela; 37o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse, daeth chwech ugain mil gyda phob math o arfau cymwys i ryfel.
38Yr oedd y rhain i gyd yn filwyr parod eu cymorth, a daethant i Hebron yn unfryd i wneud Dafydd yn frenin ar holl Israel. Yr oedd pawb arall yn Israel hefyd yn unfryd o blaid gwneud Dafydd yn frenin. 39Buont yno gyda Dafydd am dridiau yn bwyta ac yn yfed, oherwydd yr oedd eu brodyr wedi paratoi ar eu cyfer. 40Yr oedd eu cymdogion hefyd, o gyn belled ag Issachar, Sabulon a Nafftali, wedi dod â bwyd ar asynnod, camelod, mulod ac ychen. Daethant â blawd, teisennau ffigys, grawnwin, gwin, olew, a llawer o wartheg a defaid, oherwydd yr oedd llawenydd yn Israel.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 12: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: