1 Cronicl 14
14
Gweithgarwch Dafydd yn Jerwsalem
2 Sam. 5:11–16
1Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd, seiri maen a seiri coed i adeiladu tŷ iddo. 2Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a bod ei frenhiniaeth wedi ei dyrchafu'n uchel er mwyn ei bobl Israel.
3Cymerodd Dafydd ychwaneg o wragedd yn Jerwsalem a chenhedlu rhagor o feibion a merched. 4Dyma enwau'r plant a gafodd yn Jerwsalem: Sammua, Sobab, Nathan, Solomon, 5Ibhar, Elisua, Elpalet, 6Noga, Neffeg, Jaffia, 7Elisama, Beeliada ac Eliffelet.
Trechu'r Philistiaid
2 Sam. 5:17–25
8Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth allan i'w herbyn. 9Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim, 10gofynnodd Dafydd i Dduw, “A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe rof y Philistiaid yn dy law.” 11Felly pan aethant i fyny i Baal-perasim, fe drawodd Dafydd hwy yno, a dweud, “Fel toriad dyfroedd, fe dorrodd Duw drwy fy ngelynion â'm llaw i.” Dyma pam y galwyd y lle hwnnw, Baal-perasim.#14:11 Neu, Baal Toriadau. 12A phan adawsant eu duwiau ar ôl yno, gorchmynnodd Dafydd eu llosgi â thân.
13Unwaith eto ymledodd y Philistiaid dros y dyffryn. 14Pan ymofynnodd Dafydd â Duw drachefn, dywedodd Duw wrtho, “Paid â mynd i fyny ar eu hôl; dos ar gylch oddi wrthynt, a thyrd arnynt gyferbyn â'r morwydd. 15Yna pan glywi sŵn cerdded ym mrig y morwydd, dos allan i ryfel, oherwydd bydd Duw yn mynd allan o'th flaen i daro gwersyll y Philistiaid.” 16A gwnaeth Dafydd fel y gorchmynnodd Duw iddo, ac fe drawsant wersyll y Philistiaid o Gibeon hyd Geser. 17Ac aeth enw Dafydd drwy'r gwledydd i gyd, a gwnaeth yr ARGLWYDD i'r holl genhedloedd ei ofni.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 14: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: