1 Cronicl 25
25
Cerddorion y Deml
1Dewisodd Dafydd a'r swyddogion feibion Asaff, Heman a Jeduthun ar gyfer y gwaith o broffwydo â thelynau, nablau a symbalau. Dyma restr o'r dynion a etholwyd ar gyfer y gwaith. 2O feibion Asaff: Saccur, Joseff, Nethaneia ac Asarela. Yr oedd meibion Asaff o dan gyfarwyddyd Asaff, a oedd yn proffwydo mewn ufudd-dod i'r brenin. 3O Jeduthun, meibion Jeduthun: Gedaleia, Seri, Jesaia, Simei#25:3 Felly llawysgrif a Groeg. TM heb Simei., Hasabeia a Matitheia, chwech, o dan gyfarwyddyd eu tad Jeduthun, a oedd yn proffwydo ar y delyn er mawl a chlod i'r ARGLWYDD. 4O Heman, meibion Heman: Bucceia, Mataneia, Ussiel, Sebuel, Jerimoth, Hananeia, Hanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-eser, Josbecasa, Malothi, Hothir a Mahasioth. 5Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Heman, gweledydd y brenin, gan fod Duw wedi addo ei ddyrchafu, ac wedi rhoi iddo bedwar ar ddeg o feibion a thair merch. 6Yr oedd y rhain i gyd o dan gyfarwyddyd eu tad yn canu yn nhŷ'r ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, tra oedd Asaff, Jeduthun a Heman o dan gyfarwyddyd y brenin. 7Y cyfanrif, gan gynnwys eu brodyr a oedd wedi eu hyfforddi sut i ganu i'r ARGLWYDD ac wedi meistroli'r grefft, oedd dau gant wyth deg ac wyth. 8Bwriasant goelbrennau ynglŷn â'u dyletswyddau, ifanc a hen, athro a disgybl fel ei gilydd.
9Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Joseff yr Asaffiad, ef a'i feibion a'i frodyr, deuddeg#25:9 Cymh. Groeg. Hebraeg heb ef a'i… deuddeg.. Yr ail ar Gedaleia, ef a'i frodyr a'i feibion, deuddeg. 10Y trydydd ar Saccur, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 11Y pedwerydd ar Isri, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 12Y pumed ar Nethaneia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 13Y chweched ar Bucceia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 14Y seithfed ar Jesarela, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 15Yr wythfed ar Jesaia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 16Y nawfed ar Mataneia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 17Y degfed ar Simei, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 18Yr unfed ar ddeg ar Asareel, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 19Y deuddegfed ar Hasabeia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 20Y trydydd ar ddeg ar Subael, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 21Y pedwerydd ar ddeg ar Matitheia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 22Y pymthegfed ar Jerimoth, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 23Yr unfed ar bymtheg ar Hananeia, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 24Yr ail ar bymtheg ar Josbecasa, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 25Y deunawfed ar Hanani, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 26Y pedwerydd ar bymtheg ar Malothi, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 27Yr ugeinfed ar Eliatha, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 28Yr unfed ar hugain ar Hothir, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 29Yr ail ar hugain ar Gidalti, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 30Y trydydd ar hugain ar Mahasioth, ei feibion a'i frodyr, deuddeg. 31Y pedwerydd ar hugain ar Romamti-eser, ei feibion a'i frodyr, deuddeg.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 25: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: