Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 11

11
Proffwydoliaeth Semaia
1 Bren. 12:21–24
1Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd dylwythau Jwda a Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam. 2Ond daeth gair yr ARGLWYDD at Semeia, gŵr Duw: 3“Dywed wrth Rehoboam fab Solomon, brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, 4‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â mynd i ryfela yn erbyn eich perthnasau; ewch yn ôl adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.’ ” A gwrandawsant ar eiriau'r ARGLWYDD, a pheidio â mynd yn erbyn Jeroboam.
Dinasoedd Caerog Rehoboam
5Arhosodd Rehoboam yn Jerwsalem, ac adeiladu dinasoedd caerog yn Jwda. 6Adeiladodd Bethlehem, Etam, Tecoa, 7Beth-sur, Socho, Adulam, 8Gath, Maresa, Siff, 9Adoraim, Lachis, Aseca, 10Sora, Ajalon a Hebron, sef dinasoedd caerog Jwda a Benjamin. 11Cryfhaodd y caerau a rhoi rheolwyr ynddynt, a hefyd stôr o fwyd, olew a gwin. 12Gwnaeth bob dinas yn amddiffynfa gadarn iawn ac yn lle i gadw tarianau a gwaywffyn. Felly daliodd ei afael ar Jwda a Benjamin.
Offeiriaid a Lefiaid yn Dod at Rehoboam
13Daeth yr offeiriaid a'r Lefiaid ato o ble bynnag yr oeddent yn byw yn Israel gyfan; 14oherwydd yr oedd y Lefiaid wedi gadael eu cytir a'u tiriogaeth a dod i Jwda a Jerwsalem, am fod Jeroboam a'i feibion wedi eu rhwystro rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD, 15ac wedi penodi ei offeiriaid ei hun ar gyfer yr uchelfeydd ac ar gyfer y bychod geifr a'r lloi a luniodd. 16A daeth pawb o lwythau Israel, a oedd yn awyddus i geisio ARGLWYDD Dduw Israel, ar ôl y Lefiaid i Jerwsalem er mwyn aberthu i ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid. 17Felly cryfhasant frenhiniaeth Jwda, a chadarnhau Rehoboam fab Solomon am dair blynedd, gan ddilyn yn llwybrau Dafydd a Solomon trwy'r cyfnod hwn.
Teulu Rehoboam
18Priododd Rehoboam â Mahalath; merch i Jerimoth fab Dafydd ac i Abihail ferch Eliab, fab Jesse oedd hi, 19ac fe roes iddo feibion, sef Jeus, Samareia a Saham. 20Ar ei hôl hi, fe gymerodd Maacha ferch Absalom, a rhoes hithau iddo Abeia, Attai, Sisa a Selomith. 21Yr oedd Rehoboam yn caru Maacha ferch Absalom yn fwy na'i holl wragedd a'i ordderchwragedd. Yr oedd ganddo ddeunaw o wragedd a thrigain o ordderchwragedd, ac fe genhedlodd wyth ar hugain o feibion a thrigain o ferched. 22Gosododd Rehoboam Abeia fab Maacha yn bennaeth ar ei frodyr, er mwyn ei wneud yn frenin. 23Bu'n ddigon doeth i wasgaru ei feibion trwy'r holl ddinasoedd caerog yn nhiriogaeth Jwda a Benjamin. Darparodd yn hael ar eu cyfer a cheisiodd lawer o wragedd iddynt.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda