Ond y mae'r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw'r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni. Ym mhob peth yr ydym yn cael ein gorthrymu ond nid ein llethu, ein bwrw i ansicrwydd ond nid i anobaith, ein herlid ond nid ein gadael yn amddifad, ein taro i lawr ond nid ein dinistrio. Yr ydym bob amser yn dwyn gyda ni yn ein corff farwolaeth yr Arglwydd Iesu, er mwyn i fywyd Iesu hefyd gael ei ddwyn i'r amlwg yn ein corff ni. Oherwydd yr ydym ni, a ninnau'n fyw, yn cael ein traddodi yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, i fywyd Iesu hefyd gael ei ddwyn i'r amlwg yn ein cnawd marwol ni. Felly y mae marwolaeth ar waith ynom ni, a bywyd ynoch chwi. Gan fod gennym ni yr un ysbryd crediniol yr ysgrifennir amdano yng ngeiriau'r Ysgrythur, “Credais, ac am hynny y lleferais”, yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru
Darllen 2 Corinthiaid 4
Gwranda ar 2 Corinthiaid 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 4:7-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos