2 Brenhinoedd 18
18
Heseceia Brenin Jwda
2 Cron. 29:1–2; 31:1
1Yn y drydedd flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel, daeth Heseceia fab Ahas brenin Jwda i'r orsedd. 2Yr oedd yn bump ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abi merch Sechareia oedd enw ei fam. 3Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd. 4Tynnodd ymaith yr uchelfeydd a dryllio'r colofnau a thorri'r pyst Asera, a malu'r sarff bres a wnaeth Moses; oherwydd hyd y dyddiau hynny bu'r Israeliaid yn arogldarthu iddi ac yn ei galw'n Nehustan. 5Ymddiriedai Heseceia yn yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac ni fu neb tebyg iddo ymhlith holl frenhinoedd Jwda, ar ei ôl nac o'i flaen. 6Glynodd yn ddiwyro wrth yr ARGLWYDD, a chadw'r gorchmynion a roddodd ef i Moses. 7Yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef, a llwyddai ym mhopeth a wnâi; gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu. 8Trawodd y Philistiaid, yn dŵr gwylwyr ac yn ddinas gaerog, hyd at Gasa a'i therfynau.
9Yn y bedwaredd flwyddyn i'r Brenin Heseceia (y seithfed flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel) ymosododd Salmaneser brenin Asyria ar Samaria a gwarchae arni. 10Wedi tair blynedd enillodd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, sef y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria. 11Caethgludodd brenin Asyria yr Israeliaid i Asyria, a'u rhoi yn Hala ac ar lannau afon Habor yn Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. 12Bu hyn am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD eu Duw, ond troseddu yn erbyn ei gyfamod a'r cwbl a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD; nid oeddent yn gwrando nac yn gwneud.
Senacherib yn Bygwth Jerwsalem
2 Cron. 32:1–19; Es. 36:1–22
13Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Heseceia, ymosododd Senacherib brenin Asyria ar holl ddinasoedd caerog Jwda a'u goresgyn. 14Yna anfonodd Heseceia brenin Jwda at frenin Asyria i Lachis a dweud, “Rwyf ar fai. Dychwel oddi wrthyf, a thalaf iti beth bynnag a godi arnaf.” Rhoddodd brenin Asyria ddirwy o dri chan talent o arian a deg talent ar hugain o aur ar Heseceia brenin Jwda. 15Talodd Heseceia yr holl arian oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yng nghoffrau'r palas; 16a'r un pryd tynnodd yr aur oddi ar ddrysau a cholofnau teml yr ARGLWYDD, y rhai yr oedd ef ei hun wedi eu goreuro, ac fe'i rhoddodd i frenin Asyria.
17Anfonodd brenin Asyria y cadlywydd, y cadfridog a'r prif swyddog#18:17 Neu, y Tartan, y Rabsaris a'r Rabsace. gyda byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia. Wedi iddynt ddringo i fyny i Jerwsalem#18:17 Felly Groeg. Hebraeg, Jerwsalem a dringo i fyny., safasant wrth bistyll y llyn uchaf sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr, a galw am y brenin. 18Daeth Eliacim fab Hilceia arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff y cofiadur, allan atynt; 19a dywedodd y prif swyddog wrthynt, “Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria; ‘Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt? 20A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn? 21Ai yr Aifft—ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac yn agor llaw dyn os pwysa arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno. 22Neu os dywedi wrthyf, “Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw”, onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, “O flaen yr allor hon yn Jerwsalem yr addolwch?” ’ 23Yn awr, ynteu, beth am daro bargen â'm meistr, brenin Asyria? Rhoddaf ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt. 24Sut, ynteu, y gelli wrthsefyll un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion? 25Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, ‘Dos i fyny yn erbyn y wlad hon a dinistria hi.’ ”
26Atebwyd y prif swyddog gan Eliacim fab Hilceia a Sebna a Joa, “Gwell gennym iti siarad â ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio â siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur.” 27Ond dywedodd y prif swyddog wrthynt, “Ai at eich meistr a chwi yma yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl? Onid hefyd at y dynion sydd ar y mur, ac a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu dŵr eu hunain?” 28Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, “Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria. 29Dyma y mae'n ei ddweud, ‘Peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu o'm llaw. 30Peidiwch â chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, Bydd yr ARGLWYDD yn siŵr o'n gwaredu ni, ac ni roir y ddinas hon i afael brenin Asyria.’ 31Peidiwch â gwrando ar Heseceia. Dyma eiriau brenin Asyria: ‘Gwnewch delerau heddwch â mi, dewch allan ataf, ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed o ddŵr ei ffynnon ei hun, 32nes imi ddyfod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olewydd, olew a mêl; a chewch fyw ac nid marw.’ Peidiwch â gwrando ar Heseceia yn eich hudo trwy ddweud, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu.’ 33A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria? 34Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim, Hena ac Ifa? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael? 35Prun o holl dduwiau'r gwledydd hyn sydd wedi gwaredu ei wlad o'm gafael? Sut felly y bydd i'r ARGLWYDD waredu Jerwsalem o'm gafael?” 36Cadw'n ddistaw a wnaeth y bobl, heb ateb gair, oherwydd yr oedd y brenin wedi rhoi gorchymyn nad oeddent i'w ateb. 37Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho eiriau'r prif swyddog.
Dewis Presennol:
2 Brenhinoedd 18: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: