Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 24

24
1Yn ei ddyddiau ef daeth Nebuchadnesar brenin Babilon yn ei erbyn, a bu Jehoiacim yn ddarostyngedig iddo am dair blynedd cyn gwrthryfela. 2Anfonodd yr ARGLWYDD finteioedd o Galdeaid ac o Syriaid a Moabiaid ac Ammoniaid i ymosod ar Jwda a'i difa, yn ôl yr hyn yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy ei weision y proffwydi. 3Yn sicr, trwy orchymyn yr ARGLWYDD y digwyddodd hyn i Jwda, i'w symud o'i olwg am yr holl bechodau a wnaeth Manasse, 4a'r gwaed dieuog a dywalltodd; llanwodd Jerwsalem â gwaed dieuog, ac nid oedd yr ARGLWYDD yn fodlon maddau.
5Am weddill hanes Jehoiacim, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 6Bu farw Jehoiacim, a daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. 7Ni ddaeth brenin yr Aifft allan o'i wlad mwyach, oherwydd yr oedd brenin Babilon wedi cipio'r cwbl a fu'n eiddo brenin yr Aifft rhwng nant yr Aifft ac afon Ewffrates.
Jehoiachin Brenin Jwda
2 Cron. 36:9–10
8Deunaw mlwydd oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Nehusta merch Elnathan o Jerwsalem oedd enw ei fam. 9Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr. 10Yr adeg honno daeth gweision Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gosod gwarchae ar y ddinas. 11Yna, tra oedd ei weision yn gwarchae arni, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y ddinas, 12ac aeth Jehoiachin brenin Jwda allan gyda'i fam a'i weision a'i swyddogion a'i weinyddwyr at frenin Babilon. Cymerodd brenin Babilon ef yn garcharor yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, 13a chludodd holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin oddi yno, a dryllio'r holl gelfi aur a wnaeth Solomon brenin Israel yn nheml yr ARGLWYDD, fel y rhagddywedodd yr ARGLWYDD. 14Caethgludodd ddeng mil o Jerwsalem, yr holl dywysogion a'r gwŷr cefnog, a phob crefftwr a gof hefyd, heb adael neb ond y tlotaf o bobl y wlad.
15Aeth â Jehoiachin i Fabilon, a hefyd dwyn yn gaeth o Jerwsalem i Fabilon ei fam a'i wragedd a'i weinyddwyr a phendefigion y wlad. 16Dygodd brenin Babilon yn gaeth i Fabilon saith mil o wŷr cefnog a mil o grefftwyr a gofaint, y cwbl yn wŷr glew yn medru rhyfela. 17Gwnaeth brenin Babilon Mataneia ewythr Jehoiachin yn frenin yn ei le, a newid ei enw i Sedeceia.
Sedeceia Brenin Jwda
2 Cron. 36:11–12; Jer. 52:1–3
18Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar ddeg yn Jerwsalem. Hamutal merch Jeremeia o Libna oedd enw ei fam. 19A gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth Jehoiacim. 20Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD cafodd Jerwsalem a Jwda eu bwrw allan o'i ŵydd.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 24: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda