2 Samuel 16
16
Dafydd a Siba
1Wedi i Ddafydd fynd ychydig heibio i gopa'r mynydd, dyma Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo yn cario dau gan torth o fara, can swp o rawnwin, cant o ffrwythau haf a photel o win. 2Dywedodd y brenin wrth Siba, “Beth yw'r rhain sydd gennyt?” Atebodd Siba, “Y mae'r asynnod ar gyfer teulu'r brenin i'w marchogaeth, y bara a'r ffrwythau i'r bechgyn i'w bwyta, a'r gwin i'w yfed gan unrhyw un fydd yn lluddedig yn yr anialwch.” 3Holodd y brenin, “Ond ymhle y mae ŵyr dy feistr?” Atebodd Siba, “Y mae ef wedi aros yn Jerwsalem, oblegid y mae'n meddwl y bydd yr Israeliaid yn awr yn dychwelyd teyrnas ei daid iddo.” 4Dywedodd y brenin wrth Siba, “Edrych, ti biau bopeth sydd gan Meffiboseth.” Atebodd Siba, “Yr wyf yn ymostwng o'th flaen; bydded imi gael ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin.”
Dafydd a Simei
5Pan gyrhaeddodd Dafydd Bahurim, dyma ddyn o dylwyth Saul, o'r enw Simei fab Gera, yn dod allan oddi yno dan felltithio. 6Yr oedd yn taflu cerrig at Ddafydd a holl weision y brenin, er bod yr holl fintai a'r milwyr i gyd o boptu iddo. 7Ac fel hyn yr oedd Simei yn dweud wrth felltithio: “Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd, y llofrudd, y dihiryn; 8y mae'r ARGLWYDD wedi talu iti am holl waed teulu Saul a ddisodlaist fel brenin; y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas yn llaw dy fab Absalom. Dyma ti mewn adfyd oherwydd mai llofrudd wyt ti.”
9Dywedodd Abisai fab Serfia wrth y brenin, “Pam y dylai'r ci marw hwn gael melltithio f'arglwydd frenin? Gad imi fynd ato a thorri ei ben i ffwrdd.” 10Ond meddai'r brenin, “Beth sydd a wnelo hyn â mi neu â chwi, feibion Serfia? Y mae ef yn melltithio fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am felltithio Dafydd, a phwy sydd i ofyn, ‘Pam y gwnaethost hyn?’ ” 11Ychwanegodd Dafydd wrth Abisai a'i holl weision. “Edrychwch, y mae fy mab i fy hun yn ceisio fy mywyd; pa faint mwy y Benjaminiad hwn? 12Gadewch iddo felltithio, oherwydd yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho. Efallai y bydd yr ARGLWYDD yn edrych ar fy nghyni, ac yn gwneud daioni imi yn lle ei felltith ef heddiw.” 13Yna, tra oedd Dafydd a'i filwyr yn mynd ar hyd y ffordd, yr oedd Simei yn mynd ar hyd ochr y mynydd gyferbyn ag ef, yn melltithio ac yn lluchio cerrig ac yn taflu pridd ato. 14Erbyn iddynt gyrraedd yr Iorddonen#16:14 Felly Groeg. Hebraeg heb yr Iorddonen. yr oedd y brenin a'r holl bobl oedd gydag ef yn lluddedig, felly cymerasant seibiant yno.
Absalom yn Jerwsalem
15Yr oedd Absalom a'r holl fyddin o Israeliaid wedi cyrraedd Jerwsalem, ac Ahitoffel gyda hwy. 16Yna, pan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom a dweud wrtho, “Byw fyddo'r brenin, byw fyddo'r brenin!” 17Gofynnodd Absalom i Husai, “Ai dyma dy deyrngarwch i'th gyfaill? Pam nad aethost ti gyda'th gyfaill?” 18Ac meddai Husai wrth Absalom, “O na, yr wyf fi o blaid yr un a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD, a'r bobl hyn a'r holl Israeliaid, a chydag ef yr arhosaf. 19Ac at hynny, pwy a ddylwn i ei wasanaethu? Onid ei fab? Fel y bûm yn gwasanaethu dy dad, felly y byddaf gyda thi.”
20Yna dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, “Rho gyngor inni beth i'w wneud.” 21Atebodd Ahitoffel, “Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad a adawodd ef i ofalu am y tŷ; a phan fydd Israel gyfan yn clywed dy fod wedi dy ffieiddio gan dy dad, fe gryfheir dwylo pawb sydd gyda thi.” 22Taenwyd pabell i Absalom ar y to, ac aeth yntau i mewn at ordderchwragedd ei dad yng ngolwg Israel gyfan. 23Yr oedd y cyngor a roddai Ahitoffel yn y dyddiau hynny fel pe bai rhywun yn ymofyn cyfarwyddyd gan Dduw; felly'r ystyrid ef gan Ddafydd ac Absalom hefyd.
Dewis Presennol:
2 Samuel 16: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: