Actau 1
1
Addo'r Ysbryd Glân
1Ysgrifennais y llyfr cyntaf, Theoffilus, am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneud a'u dysgu#1:1 Neu, bethau a wnaeth ac a ddysgodd Iesu o'r dechrau. 2hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny, wedi iddo roi gorchmynion trwy'r Ysbryd Glân i'r apostolion yr oedd wedi eu dewis. 3Dangosodd ei hun hefyd iddynt yn fyw, wedi ei ddioddefaint, drwy lawer o arwyddion sicr, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain diwrnod a llefaru am deyrnas Dduw. 4A thra oedd gyda hwy, gorchmynnodd iddynt beidio ag ymadael o Jerwsalem, ond disgwyl am yr hyn a addawodd y Tad. “Fe glywsoch am hyn gennyf fi,” meddai. 5“Oherwydd â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân ymhen ychydig ddyddiau.”
Esgyniad Iesu
6Felly, wedi iddynt ddod ynghyd, fe ofynasant iddo, “Arglwydd, ai dyma'r adeg yr wyt ti am adfer y deyrnas i Israel?” 7Dywedodd yntau wrthynt, “Nid chwi sydd i wybod amseroedd neu brydiau y mae'r Tad wedi eu gosod o fewn ei awdurdod ef ei hun. 8Ond fe dderbyniwch nerth wedi i'r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear.” 9Wedi iddo ddweud hyn, a hwythau'n edrych, fe'i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o'u golwg. 10Fel yr oeddent yn syllu tua'r nef, ac yntau'n mynd, dyma ddau ŵr yn sefyll yn eu hymyl mewn dillad gwyn, 11ac meddai'r rhain, “Wŷr Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua'r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i'r nef, yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i'r nef.”
Dewis Olynydd Jwdas
12Yna dychwelsant i Jerwsalem o'r mynydd a elwir Olewydd, sydd yn agos i Jerwsalem, daith Saboth oddi yno. 13Wedi cyrraedd, aethant i fyny i'r oruwchystafell, lle'r oeddent yn aros: Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot a Jwdas fab Iago. 14Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi, ynghyd â rhai gwragedd a Mair, mam Iesu, a chyda'i frodyr.
15Un o'r dyddiau hynny cododd Pedr ymysg y credinwyr—yr oedd tyrfa o bobl yn yr un lle, rhyw gant ac ugain ohonynt—ac meddai, 16“Gyfeillion, rhaid oedd cyflawni'r Ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr un a ddangosodd y ffordd i'r rhai a ddaliodd Iesu; 17oherwydd fe'i cyfrifid yn un ohonom ni, a chafodd ei ran yn y weinidogaeth hon.” 18(Fe brynodd hwn faes â'r tâl am ei ddrygwaith, ac wedi syrthio ar ei wyneb fe rwygodd yn ei ganol, a thywalltwyd ei berfedd i gyd allan. 19A daeth hyn yn hysbys i holl drigolion Jerwsalem, ac felly galwyd y maes hwnnw yn eu hiaith hwy eu hunain yn Aceldama, hynny yw, Maes y Gwaed.) 20“Oherwydd y mae'n ysgrifenedig yn Llyfr y Salmau:
“ ‘Aed ei gartrefle yn anghyfannedd,
heb neb yn byw ynddo’,
“a hefyd:
“ ‘Cymered arall ei oruchwyliaeth.’
21“Felly, rhaid i un o'r rhai a fu yn ein cwmni ni yr holl amser y bu'r Arglwydd Iesu yn mynd i mewn ac allan yn ein plith ni, 22o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym, ddod yn dyst gyda ni o'i atgyfodiad ef.” 23Ystyriwyd dau: Joseff, a elwid Barsabas ac a gyfenwid Jwstus, a Mathias. 24Yna aethant i weddi: “Adwaenost ti, Arglwydd, galonnau pawb. Amlyga p'run o'r ddau hyn a ddewisaist 25i gymryd ei le yn y weinidogaeth a'r apostolaeth hon, y cefnodd Jwdas arni i fynd i'w le ei hun.” 26Bwriasant goelbrennau arnynt, a syrthiodd y coelbren ar Mathias, a chafodd ef ei restru gyda'r un apostol ar ddeg.
Dewis Presennol:
Actau 1: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: